Sefydlwyd rhaglen wyliadwriaeth Heintiau Clwyf Llawfeddygol (HCLl) Cymru yn 2003 i amcangyfrif y risg o haint ar ôl cael llawdriniaeth, yn benodol ar ôl i rywun gael clun a phen-glin newydd. Ar ôl ehangu'r rhaglen yn 2006 roedd gweithwyr yn gallu pennu heintiau clwyf llawfeddygol ar ôl llawdriniaethau toriad Cesaraidd. Yn 2018, cynhaliwyd peilot i edrych ar heintiau clwyf llawfeddygol ar ôl llawdriniaethau ar y colon a'r rhefr, ond nid yw'r heintiau hyn yn cael eu monitro ar lefel genedlaethol eto.
Cesglir data ar yr holl lawdriniaethau dewisol (cynlluniedig) a brys ac ar gyfer llawdriniaethau aildderbyn/adolygu (ar gluniau a phen-gliniau). Mae'r data a gesglir yn cynnwys manylion demograffig y claf, gwybodaeth am y llawdriniaeth ei hun a gofal y claf ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys manylion am heintiau clwyf sy'n datblygu, h.y. heintiau yn y man lle agorwyd y croen i gyflawni'r llawdriniaeth angenrheidiol. Fel rhan o'r rhaglen, rydym yn cynnal dadansoddiad o'r data, yn adrodd ar gyfraddau heintiau a thueddiadau ar gyfer y llawdriniaethau gorfodol ledled Cymru. Mae tîm HARP yn cydweithio â'r byrddau iechyd yng Nghymru i leihau'r risg y bydd cleifion yn datblygu HCLl.