Rhannwch y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.
Mae llawer o ffactorau yn ysgogi ymgysylltu â chyflogeion, gan gynnwys diwylliant ac enw'r da'r sefydliad, ond y farn gyffredinol yw bod “pobl yn gweithio i bobl”.
Mae menter y Llywodraeth, The IC Space, yn dweud, “Pan fydd rheolwyr yn hysbysu ac yn cynnwys eu timau gyda gweithgareddau a blaenoriaethau'r sefydliad, nid yn unig y mae'n fwy cynhyrchiol, ond mae eu cyflogeion yn hapusach, yn fwy cydnerth ac yn fwy brwdfrydig.”
O hyn ymlaen, byddwch yn cael Briff Tîm misol i helpu pob rheolwr i rannu'r wybodaeth gywir, ar yr adeg gywir, yn gyson ar draws y sefydliad.
Mae'r Briff Tîm wedi'i ddylunio i gael ei gyflwyno wyneb yn wyneb gyda'ch tîm dros y misoedd nesaf, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol hefyd i chi ei anfon at gydweithwyr sydd ar secondiad, seibiant gyrfa, absenoldeb mamolaeth ac ati. Byddwch yn cael Briff Tîm newydd gyda phob rhifyn Y Pwls.