Oes wir angen i mi ddod yn fy ôl os mai rheswm technegol neu famogram sydd angen ei ail-wneud yw'r sail dros fy ngalw. Neu oes rhywbeth wedi dod i'r amlwg?

Rydym angen set gyfan o ddelweddau cyn gallu rhoi canlyniad i chi, felly mae angen i chi ddod yn ôl. Fyddwn ni ddim yn gwybod a oes problem wedi dod i’r amlwg tan fydd y set o ddelweddau’n gyflawn.