Neidio i'r prif gynnwy

Pam bod merched yn Lloegr sydd rhwng 47 a 49 oed a rhwng 71 a 73 oed yn cael profion sgrinio ychwanegol?

Mae rhai merched yn Lloegr sydd rhwng 47 a 49 oed a rhwng 71 a 73 oed wedi cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio’r fron fel rhan o broses dreialu. Y bwriad yw gwahodd tua hanner y merched yn Lloegr sydd yn y grwpiau oed hyn, a pheidio â gwahodd y gweddill. Bydd wedyn yn bosibl cymharu profiadau’r merched. Pwrpas y treial yw gweld a oes unrhyw fanteision yn deillio o gynnig profion sgrinio’r fron ychwanegol. Ni fydd y canlyniadau ar gael am sawl blwyddyn, ac nid yw’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu bod sgrinio ychwanegol yn fuddiol.
Mae Bron Brawf Cymru a Llywodraeth Cymru’n cadw llygad gofalus ar y treial yn Lloegr, gan aros i weld y canlyniadau cyn ystyried a oes angen newid y drefn yng Nghymru.