Neidio i'r prif gynnwy

Beth os ydw i'n draws?

Os ydych chi'n draws ac rydych chi'n ansicr a oes angen prawf sgrinio arnoch chi, neu os oes unrhyw gwestiynau eraill gennych chi am eich apwyntiad gallwch chi ffonio'r ganolfan sgrinio'r fron yn eich ardal a bydd y staff yn gallu'ch helpu. Mae'n bosibl trefnu apwyntiadau ar ddechrau neu ar ddiwedd seswin y clinig er mwyn gweddu'n well i'ch anghenion.
 
Mae mwy o wybodaeth am brofion sgrinio i bobl draws ar gael ar y tudalennau i bobl draws ar ein gwefan, sef Sgrinio am Oes.