Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn digwydd os oes anabledd corfforol arnaf i a allai fy rhwystro rhag dod i gael prawf sgrinio?

Mae'r mwyafrif o brofion sgrinio'r fron yn cael eu gymuned yn un o'r unedau teithiol. Mae'r unedau'n dod i wahanol leoliadau yn y gymuned. Mae stepiau a lifft ym mhob un o'r unedau, sy'n gwenud mynediad yn hwylus i'r mwyafrif o fenywod.
 
Os byddwch chi angen defynddio'r lifft, bydd rhaid i chi roi gwybod i ni cyn dyddiad eich apwyntiad. Os ydych chi'n ansicr a ddylech chi gael prawf sgrinio  mewn uned deithiol neu beidio, gallwch chi gysylltu â ni. Bydd hyn yn gyfle i ni drafod eich anghenion. Efallai bydd angen trefnu apwyntiad hirach i chi, neu apwyntiad yn un o'n canolfannau sgrinio lleol.