Neidio i'r prif gynnwy

A allaf gael Termograffi yn lle mamogram?

Nid yw Bron Brawf Cymru yn cynnig Thermograffi ac ni all gyfeirio menywod i gael Thermograffi. Mae delweddu thermol wedi bodoli ers cryn amser ac nid yw erioed wedi’i brofi’n offeryn sgrinio effeithiol ar gyfer darganfod canser y fron cam cynnar. Dim ond chwarter yr achosion o ganser y fron y mae delweddu thermol yn ei ganfod o gymharu â mamograffi.
 
Dim ond llif gwaed ar yr wyneb y mae thermogramau’n ei ganfod, felly mae’n bosibl na fydd twf canser sy’n ddyfnach nag ychydig filimetrau yn cael ei ganfod oni bai ei fod yn digwydd bod yn ddigon mawr i amharu ar batrymau llif y gwaed ar yr wyneb. Gall mamogramau ganfod ardaloedd bach o galcheiddio yn y fron a all fod yn arwydd cynnar o ganser.