Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i wedi cael llythyr yn gofyn i mi fynd i glinig asesu. Beth mae hyn yn ei olygu?

Rydym yn gofyn i tua un ferch o bob 20 i ddod i glinig asesu. Mae nifer o wahanol resymau dros wneud hyn. Ymhlith y rhesymau mwyaf cyffredin mae:

  • Roedd rhywbeth i’w weld ar y mamogram (prawf pelydr-X o’r fron) sy’n galw am fwy o brofion cyn y gallwn ni roi canlyniad i chi.
  • Fe wnaethoch chi ddweud wrth y person a wnaeth y prawf sgrinio eich bod wedi sylwi ar lwmp neu newid arall yn eich bron.
  • Fe sylwodd y person a wnaeth y prawf sgrinio ar fan ar eich bron neu’ch teth yr oedd hi’n teimlo y dylai arbenigwr ei archwilio.
  • Bydd y radiograffydd neu’r meddyg yn esbonio’r rheswm dros ofyn i chi ddod yn eich ôl.