Mae’r unedau’n symud o safle i safle am nifer o resymau. Efallai nad oes caniatâd gennym o hyd i barcio’r uned ar y safle lle’r oeddem y tro diwethaf yr oeddem yn eich ardal, neu efallai nad oes digon o le yno i’r unedau newydd sy’n fwy. Rydym yn gwneud ein gorau i ddewis safle i’r unedau sydd â chysylltiadau cludiant cyhoeddus da a chyfleusterau cyhoeddus.