Mae rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod wedi parhau yn ystod pandemig y Coronafeirws oherwydd bod gan bob un o'r rhain gyfnod byr o amser ar gyfer nodi a thriniaeth brydlon. Byddwn yn gwneud ein gorau i barhau ond bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio ni a'n cydweithwyr yn y byrddau iechyd.
Mae Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn ailddechrau'r clinigau sgrinio clyw babanod o fis Gorffennaf 2020 ar gyfer y babanod hynny na chawsant eu sgrinio yn yr ysbyty. Byddwn yn cysylltu â rhieni i gynnig y sgrinio ac esbonio'r trefniadau ar gyfer mynd i'r clinigau.
Mae gohebiaeth ynghylch Rhaglenni Sgrinio Mamau a Phlant yn ystod pandemig Covid-19 wedi'i hanfon at bob bwrdd iechyd yng Nghymru