Nod rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Babanod Newydd-anedig yng Nghymru yw cynnig prawf sgrinio gydag ansawdd wedi ei sicrhau, i bob babi cymwys, pum diwrnod oed, am glefydau difrifol fyddai’n cael budd o ymyrraeth gynnar ac yn lleihau marwolaethau a/neu forbidrwydd yn sgil y clefyd. Mae’r prawf yn cynnwys cymryd sampl bach o waed o sawdl y babi.