Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2022-23


Negeseuon allweddol
  • Mae profion sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn nodi babanod a allai fod yn byw â chyflwr prin ond difrifol.
  • Os canfyddir bod gan faban unrhyw un o'r cyflyrau, bydd yn cael gofal a thriniaeth arbenigol gynnar.
  • Gall triniaeth gynnar wella iechyd babi yr effeithir arno ac atal anabledd difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.
  • Nid yw prawf sgrinio 100% yn gywir. Os yw'r prawf sgrinio'n awgrymu problem, bydd angen profion pellach ar y babi i gadarnhau bod ganddo'r cyflwr.
  • Mae'r GIG yn argymell prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig.
  • Mae 'Gwybodaeth i Rieni', sydd ar-lein gan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig - Gwybodaeth i rieni - Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn esbonio'r cyflyrau y sgriniwyd ar eu cyfer a sut y cymerir y sampl.

 

Cefndir

Nod Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru  (NBSW) yw cynnig sgrinio amserol, gyda sicrwydd ansawdd, ar gyfer cyflyrau prin ond difrifol a fyddai’n elwa o ymyrraeth gynnar i leihau marwolaethau a/neu afiachusrwydd i bob babi cymwys. 

Sefydlwyd rhaglen NBSW yn 2014. Er bod sgrinio smotyn gwaed ar gyfer rhai cyflyrau ar gael drwy sefydliadau'r GIG yng Nghymru cyn hynny, roedd trosglwyddo cyfrifoldeb i raglen a reolir yn genedlaethol yn sicrhau y gellid safoni cyflawniad a pherfformiad. Yn ogystal, fel rhan o sefydliad 
NBSW, sicrhawyd bod pob babi cymwys yn cael cynnig sgrinio a bod pob cerdyn smotyn gwaed yn cyrraedd y labordy yn sgil cyflwyno system di-feth genedlaethol.

Sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yw pan fydd sampl bach o waed yn cael ei gymryd o sawdl y babi ar bumed diwrnod ei fywyd (gan gyfrif diwrnod geni fel diwrnod sero). Mae'r prawf sgrinio yn rhan o ofal ôl-enedigol arferol.

Yng Nghymru mae pob babi cymwys yn cael cynnig sgrinio am y cyflyrau isod sy’n cael eu hargymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU:

  • Anhwylderau metabolaidd etifeddol (IMDs):

o Diffyg didhydrogenas asyl-CoA cadwyn ganolig (MCADD)
o Ffenylcetonwria
o Clefyd wrin surop masarn (MSUD)
o Asidemia isofalerig (IVA)
o Asidwria glwtarig math 1 (GA1)
o Homosystinwria (HCU)

  • Isthyroidedd cynhenid (CHT)
  • Ffeibrosis systig (CF)
  •  Anhwylderau clefyd y crymangelloedd (SCD)

 

Crynodeb o weithgarwch yn y flwyddyn a adroddwyd

Cafwyd amrywiaeth o ddatblygiadau drwy gydol 2022-23, gyda llawer ohonynt yn effeithio ar y modd y darperir y rhaglen. Deilliodd y newid mwyaf arwyddocaol o’r gweithredu diwydiannol a gymerwyd gan staff y Post Brenhinol yn ystod 2022. Ers dechrau NBSW, mae samplau a gymerwyd gan fabanod ar draws Cymru wedi'u trosglwyddo i'r labordy cenedlaethol drwy'r post Post Brenhinol. Yn flaenorol, mae hyn wedi darparu cludiant cyflym ar y cyfan, gyda'r rhai sy'n cymryd samplau yn gallu cyrchu rhwydwaith eang o fannau gollwng cyfleus trwy flychau post. Roedd y gweithredu diwydiannol yn golygu ei bod yn debygol y byddai oedi sylweddol cyn rhoi sampl, gyda risg uwch na fyddai babanod yn cael eu nodi mewn pryd ar gyfer triniaeth effeithiol. O ganlyniad, comisiynwyd gwasanaeth negesydd sampl penodol yn gyflym i sicrhau bod samplau’n cael eu cludo’n amserol o rwydwaith o  fannau casglu ar draws safleoedd GIG Cymru. I ddechrau, cyflwynwyd y gwasanaeth am ddeg wythnos o ddiwedd mis Hydref 2022. Estynnwyd hyn ymhellach tan ddiwedd y flwyddyn ariannol oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch darpariaeth y Post Brenhinol, ac i gydnabod yr amseroedd teithio llai a ddeilliodd o’r newid.

Yn ystod hydref 2022, trosglwyddodd y rhaglen i ddull 'digidol yn gyntaf' o ddarparu gwybodaeth cyn sgrinio. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o deuluoedd yn cyrchu gwybodaeth am sgrinio NBSW trwy dudalennau gwe'r rhaglen, yn hytrach na thaflen wybodaeth bapur. Datblygwyd animeiddiadau newydd i gefnogi'r newid hwn, sy'n cynnig manteision penodol o ran cyfieithu mewn amrywiaeth o ieithoedd a fformat mwy deniadol ar gyfer gwybodaeth allweddol. Ehangwyd y gwaith digidol  ymhellach gyda lansiad gwefan newydd Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol i ddarparu un man lle gall y rhai sy’n cymryd samplau a chydweithwyr clinigol gael mynediad at wybodaeth allweddol NBSW a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau rhaglen.

Cafwyd newidiadau gwasanaeth o fewn y timau labordy a chlinigol arbenigol, gan gynnwys newid mewn llwybrau atgyfeirio i adlewyrchu symud y gwasanaeth Anhwylderau Metabolaidd Etifeddol arbenigol a ddarperir gan Ysbyty Plant Birmingham ar gyfer babanod yn Ne Cymru. Yn ogystal, gweithredodd y labordy newid i'r prawf Gwerthbwynt a ddefnyddir yng Nghymru i sbarduno profion ychwanegol ar gyfer Ffeibrosis systig, i sicrhau bod y risg o golli babanod yn parhau'n isel.

Mae ein gwaith parhaus gyda derbynwyr samplau i gefnogi casglu samplau o ansawdd uchel wedi parhau. Daethpwyd i gytundeb i ddefnyddio rhifau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon wrth gofrestru fel cymerwyr sampl, gan gynyddu'r tebygolrwydd y bydd y data hwn yn cael ei gofnodi ar y cerdyn sampl. Cymeradwyodd y rhaglen broses i sicrhau mai dim ond staff y GIG sy’n cymryd samplau, i roi sicrwydd bod y rhai sy’n cymryd samplau wedi’u hyfforddi ac yn gallu cael mynediad at holl adnoddau NBSW. Gwnaethom hefyd ehangu’r defnydd o lythyrau diolch ar gyfer y rhai sy’n cymryd samplau sy’n cyflwyno samplau o ansawdd cyson uchel gan dimau gofal dwys i bob grŵp staff sy’n cymryd samplau. Yn olaf, cwblhaodd y rhaglen werthusiad o dderbyn samplau a gymerwyd gan fabanod ar 4ydd diwrnod eu bywyd. Cyflwynwyd hwn yn wreiddiol yn ystod y pandemig Covid-19, ond dangoswyd ei fod yn effeithiol, heb unrhyw effaith negyddol ar ansawdd y sgrinio a dim cynnydd nodedig yn nifer yr ail samplau sydd eu hangen.


Datblygiadau ers y flwyddyn a adroddwyd

Mewn ymateb i lwyddiant y gwasanaeth negesydd sampl a roddwyd ar waith yn 2022, sicrhaodd y rhaglen gyllid i barhau â’r ffordd newydd hon o weithio. Mae gwelliannau pellach i leihau amser teithio a chefnogi olrhain sampl wedi'u symud ymlaen fel rhan o'r gwaith hwn. 

Gan barhau i ganolbwyntio ar ymdrechion i wella a chynnal ansawdd sampl, datblygodd staff y rhaglen adnoddau ar gyfer y rhai sy'n cymryd samplau a staff y labordy i sicrhau dealltwriaeth glir a rennir o feini prawf derbyn samplau. Yn ogystal, mae’r rhaglen wedi cyhoeddi fframwaith perfformiad a sicrwydd cymerwyr sampl i gefnogi Byrddau Iechyd i unioni arferion cymryd samplau lle na chaiff  safonau eu bodloni mewn ffordd gyson.

Ym mis Tachwedd 2022, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU y dylid cyflwyno sgrinio smotyn gwaed ar gyfer cyflwr newydd – Tyrosinemia Etifeddol Math 1. Drwy gydol 2023-24, datblygwyd gwaith i ddylunio cynigion manwl ar gyfer llwybrau clinigol a phrofion labordy fel rhan o grwpiau arbenigol ledled y DU. Mae'r gwaith hwn yn parhau; mireinio cynlluniau’r DU i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r cyd-destun Cymreig.
 

Penawdau Ystadegau

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 

  • Nifer y genedigaethau cymwys ar draws Cymru oedd 28,313.
  • Nifer y babanod a brofwyd oedd 28,178 (99.5%).
  • Roedd 96.5% o fabanod newydd-anedig cymwys wedi cael cerdyn smotyn gwaed (ar gyfer sgrinio neu ddirywiad) yn y labordy erbyn diwrnod pedwar ar ddeg eu bywyd (cyflawnder y cynnig).
  • Roedd gan 95.0% o fabanod newydd-anedig cymwys ganlyniadau sgrinio smotyn gwaed terfynol erbyn diwrnod dau ar bymtheg o’u bywyd (cwmpas).
  • Cymerwyd 95.2% o samplau smotyn gwaed cyntaf rhwng diwrnodau 4 a 6 eu bywyd. 
  • Cymerwyd 54.4% o samplau ar ddiwrnod 5 eu bywyd, yn unol ag argymhellion y rhaglen. 
  • Y gyfradd ailadrodd y gellid ei hosgoi oedd 2.8%.
  • Roedd gan 99.9% o gardiau smotyn gwaed a dderbyniwyd yn y labordy rif GIG dilys ar gyfer y babi wedi'i gofnodi.
  • Derbyniwyd 85.1% o gardiau smotyn gwaed o fewn 3 diwrnod gwaith i gasglu sampl.
  • Roedd nifer y babanod a sgriniwyd yn bositif a ganfuwyd yn y flwyddyn fel a ganlyn: ffenylcetonwria (4),clefyd wrin surop marsan (0), diffyg didhydrogenas acyl-CoA cadwyn ganolig (6), homocystinuria (1), asidwria glwtaraidd math 1 (0), isovaleric acidaemia (4), isthyroidedd cynhenid (27), ffeibrosis systig (16) ac anhwylderau clefyd y crymangelloedd (4). Mae'r rhain yn ganlyniadau sgrinio’n bositif, ni chafodd pob babi ddiagnosis o'r cyflwr a amheuir.


Adroddiad llawn