Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad sgrinio eich babi: Cludydd Haemoglobin E


Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i rieni y mae prawf sgrinio smotyn gwaed eu babi newydd-anedig wedi dangos ei fod yn gludydd haemoglobin E (a nodir yn aml fel meddu ar 'nodwedd' neu ‘trait’).  

Cynnwys

― Beth mae canlyniad prawf smotyn gwaed eich babi yn ei olygu
Pam mae’n bwysig gwybod bod eich babi yn gludydd haemoglobin E
― Beichiogi yn y dyfodol a'ch teulu ehangach
 

Beth mae canlyniad prawf smotyn gwaed eich babi yn ei olygu 

Mae canlyniadau prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig eich babi yn dangos nad oes ganddo anhwylder y crymangelloedd.  

Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod eich babi yn cario un genyn anarferol ar gyfer haemoglobin o'r enw haemoglobin E, ac un genyn arferol. Ysgrifennir hwn fel Hb AE ac mae’r rhai sy’n ei gario yn cael eu galw’n gludyddion haemoglobin E.   

Mae cludydd haemoglobin E yn iach ac ni fydd angen cymorth meddygol arno i fyw bywyd normal. Nid yw haemoglobin E yr un peth â haemoglobin S (clefyd y crymangelloedd). Nid yw cludydd haemoglobin E yn cario anhwylder y crymangelloedd.  

 

Pam mae’n bwysig gwybod bod eich babi yn gludydd haemoglobin E  

Mae celloedd gwaed babi sy'n gludydd haemoglobin E yn aml yn llai nag arfer ac mae eu lefel haemoglobin yn is na'r arfer. Mae hyn yn wahanol i anaemia diffyg haearn. Dylech ddweud wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fod eich babi yn gludydd haemoglobin E er mwyn iddo wirio lefelau haearn eich babi cyn rhoi atchwanegiadau haearn iddo.  

Mae cario’r genyn haemoglobin E yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i'ch plentyn rhag malaria yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf ei fywyd. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn teithio i ardal lle mae malaria yn risg, dylai barhau i gymryd yr holl ragofalon a argymhellir. Mae hyn yn cynnwys cymryd meddyginiaeth gwrth-falaria.  

Wrth i'ch plentyn dyfu, mae'n bwysig iddo wybod ei fod yn gludydd haemoglobin E. Bydd yr wybodaeth hon yn ei helpu i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig â chael plant a sut y gellir lleihau'r risgiau hynny. Yn y dyfodol, cyn ystyried beichiogrwydd, efallai y bydd eisiau i'w bartner gael prawf i weld a yw hefyd yn cario genyn haemoglobin anarferol. Mae'r GIG yn cynnig cwnsela i esbonio'r risgiau posibl a'r opsiynau sydd ar gael.  

 

Beichiogi yn y dyfodol a'ch teulu ehangach  

Mae eich babi wedi etifeddu’r genyn haemoglobin E naill ai gennych chi neu ei dad biolegol. Mae hyn yn golygu bod un ohonoch neu'r ddau ohonoch yn cario’r genyn hefyd.  

Rydym yn argymell eich bod chi a'r tad biolegol yn cael prawf i ddarganfod pwy sy'n gludydd, yn enwedig os na roddwyd yr wybodaeth hon i chi yn ystod eich beichiogrwydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n bwriadu cael mwy o blant, gan fod posibilrwydd y gallai eich plentyn nesaf fod ag anhwylder haemoglobin os yw'r ddau riant yn cario’r genyn.  Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut y gallai hyn effeithio ar feichiogrwydd yn y dyfodol, gallwch ofyn am gael eich atgyfeirio at Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Gall eich ymwelydd iechyd eich helpu i drefnu hyn.  

Efallai y bydd aelodau eraill o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd, modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitherod eisiau ystyried cael eu profi cyn iddynt ddechrau teulu gan y gallent hefyd fod yn gludyddion. Gallai rhannu'r wybodaeth hon gyda nhw fod o gymorth iddynt.