Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i rieni pan amheuir ffeibrosis systig CF


 

 

Cynnwys

― Canlyniad sgrinio eich babi
Beth yw CF?
― Beth sy'n digwydd nesaf?
― Triniaeth
― Rhagor o wybodaeth a chymorth
― Defnyddio eich gwybodaeth
 

Canlynaid sgrinio eich babi

Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo ffeibrosis systig (CF). Bydd angen i'r canlyniad hwn gael ei gadarnhau drwy brofion pellach.

Drwy nodi CF yn gynnar, gellir cynnig triniaeth a chymorth i fabanod a'u teuluoedd cyn gynted â phosibl.

Mae'r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am CF ac yn esbonio beth sy'n digwydd nesaf.

 

Beth yw CF?

Mae CF yn gyflwr a etifeddwyd, sy'n effeithio'n bennaf ar yr ysgyfaint a threuliad.

Mae babi â CF wedi etifeddu dau enyn wedi'u haddasu, un gan bob rhiant, sydd gyda'i gilydd yn achosi'r cyflwr.

Gall babanod â CF gael heintiau ar y frest ac anawsterau wrth dreulio eu bwyd a magu pwysau.

Mae CF yn gyflwr gydol oes ac mae pob teulu'n derbyn cymorth rheolaidd gan dîm sydd â phrofiad o ofalu am fabanod a phlant â CF.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn cael apwyntiad ysbyty ar gyfer eich babi i gael prawf pellach, o'r enw prawf chwys, a gweld tîm sy'n gofalu am blant â CF. Byddwch yn cael y cyfle a'r amser i ofyn unrhyw gwestiynau.

Mae'r prawf chwys yn mesur yr halen yn y chwys, sy'n uwch mewn pobl â CF. Cesglir ychydig bach o chwys o'r croen ar fraich neu goes eich babi. Nid yw hyn yn boenus.

Byddwch yn cael canlyniadau'r prawf chwys yn ddiweddarach yr un diwrnod. Weithiau mae angen ailadrodd y prawf os na chesglir digon o chwys.

 

Triniaeth

Os caiff CF ei gadarnhau, bydd y tîm CF yn esbonio pa gymorth y gallai fod ei angen ar eich babi a'r hyn y gallwch ei wneud i'w gadw'n iach. Mae'r tîm yn cynnwys meddyg, nyrs arbenigol, ffisiotherapydd a deietegydd. Mae'r driniaeth yn gwella drwy'r amser, gan helpu pobl â CF i fyw bywydau hirach ac iachach.

Os yw'r prawf chwys yn normal, mae'n annhebygol iawn y bydd gan eich plentyn CF a bydd y Tîm CF yn trafod hyn gyda chi.

 

Cymorth i'ch teulu

Rydym yn deall bod y canlyniad sgrinio hwn yn annisgwyl ac yn gythryblus i chi a'ch teulu. Efallai y byddwch yn teimlo sioc, anghrediniaeth neu ddicter. Mae'r rhain yn adweithiau eithaf normal a brofir gan lawer o deuluoedd yn y sefyllfa hon.

Gallwch drafod unrhyw bryderon gyda’r tîm CF yn eich apwyntiad ysbyty. Bydd popeth yn cael ei wneud i gynorthwyo eich teulu a sicrhau eich bod yn cael gwybod canlyniadau'r prawf yn gyflym.

Os oes gan eich babi CF, cofiwch fod y cyflwr wedi'i nodi'n gynnar iawn oherwydd sgrinio smotyn gwaed newydd newydd-anedig ac y bydd hyn yn helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'ch babi. 

 

Rhagor o wybodaeth a chymorth


Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:


Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os canfyddir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a ddangosodd ganlyniad ‘dim achos a amheuir’.

Dim ond fel ystadegau rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau y mae ei hangen arnynt, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'r wybodaeth bersonol yn yr un modd ag y byddwn ni.

Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a'u prosesu'n ddiogel, ac ni all y cyhoedd gael mynediad atynt.