Neidio i'r prif gynnwy

Rhesymau dros fynd i sgrinio serfigol

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio. Mae'n bwysig eich bod chi'n deall manteision a risgiau sgrinio i'ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.

•    Mae profion sgrinio serfigol yn arbed tua 5,000 o fywydau bob blwyddyn yn y DU.
•    Gall prawf sgrinio serfigol rheolaidd atal canser ceg y groth rhag datblygu.
•    Gall prawf sgrinio serfigol ddod o hyd i newidiadau i'ch celloedd, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.
 

  • Nid yw profion sgrinio serfigol yn atal pob canser ceg y groth.
  • Gall prawf sgrinio serfigol beri embaras, gwneud i chi deimlo ychydig yn anghyfforddus ac mae’n bosibl y bydd yn gwneud i chi boeni.
  • Mae’n bosibl y bydd risgiau yn gysylltiedig â chael triniaeth.  Os bydd angen archwiliad pellach arnoch, byddwch yn derbyn gwybodaeth am hyn.

Prawf sgrinio serfigol yw'r ffordd orau o ddarganfod HPV risg uchel a all arwain at ganser ceg y groth, ond nid yw’r prawf 100% yn gywir.

Darganfod mwy