Gan eich bod wedi cael eich gweld yn y clinig Colposgopi, byddwn yn eich monitro'n agosach. Mae hyn yn golygu cael profion sgrinio serfigol (ceg y groth) mwy rheolaidd am gyfnod byr. Os bydd eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) nesaf yn HPV negatif, byddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio eto ymhen pum mlynedd.