Mae newidiadau i’r celloedd yn cael eu hachosi gan HPV. Os na ddarganfuwyd HPV yn eich prawf nid oes angen i ni edrych ar y celloedd. Os na ddarganfyddir HPV, nid oes angen i ni archwilio'ch celloedd gan fod eich risg o ddatblygu newidiadau i’r celloedd yn isel iawn. Rydym yn gwybod bod hyn yn peri pryder i rai unigolion, ond mae prawf sy'n dangos nad oes HPV yn bresennol yn fwy dibynadwy na dod o hyd i gelloedd normal.