Trafodwch y mater gyda'r sawl a fydd yn cymryd eich sampl a fydd yn asesu'r rhesymau dros y boen neu'r anghysur. Mae’n bosibl mai atroffi serfigol sy’n gyfrifol am hyn, sef ceg y groth yn crebachu ar ôl y menopos. Mae hyn yn broses arferol. Os mai dyma'r rheswm, ac nad yw'n bosibl i chi gael prawf yn ystod yr ymweliad hwnnw, efallai y bydd y sawl a fydd yn cymryd eich sampl yn argymell defnyddio eli estrogen i’r croen i'w gymryd cyn eich apwyntiad nesaf ar gyfer sgrinio serfigol.