Mae'n bwysig eich bod yn derbyn y gofal gorau gan Sgrinio Serfigol Cymru.
Gallwch roi adborth i ni ar:
Unrhyw sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth ebost: Adborth.sgrinio@wales.nhs.uk
Mae eich barn yn bwysig i ni. Gall helpu i lunio'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Mae yna ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan, gan gynnwys:
Cymryd rhan mewn arolygon, grwpiau ffocws ac ymgynghoriadau yn y dyfodol a fydd yn ein helpu i wella ein gwasanaeth. Bydd gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yn cael ei rhannu ar y dudalen hon.