Mae rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod wedi parhau yn ystod pandemig y Coronafeirws oherwydd bod gan bob un o'r rhain gyfnod byr o amser ar gyfer nodi a thriniaeth brydlon. Byddwn yn gwneud ein gorau i barhau ond bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio ni a'n cydweithwyr yn y byrddau iechyd.
Mae Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn ailddechrau'r clinigau sgrinio clyw babanod o fis Gorffennaf 2020 ar gyfer y babanod hynny na chawsant eu sgrinio yn yr ysbyty. Byddwn yn cysylltu â rhieni i gynnig y sgrinio ac esbonio'r trefniadau ar gyfer mynd i'r clinigau.
Mae ein gwefan yn anelu at ddarparu gwybodaeth i rhieni, gweithwyr proffesiynol ar cyhoedd yn gyffredinol. Rydyn yn croeso eich adborth a sylwadau i helpu ni rhoi i chi y gwybodaeth sydd ei angen arnoch, ac i'n helpu i gadw'r wefan yn diddorol, llawn gwybodaeth ac yn gyfredol.
Mae un neu ddwy o fabanod yn pob 1000 yn cael eu geni gyda colled clyw sydd allai achosi anawsterau wrth ddysgu siarad a datblygu iaith. Mae sgrinio clyw yn dod o hyd i'r babanod sydd efallai â cholled ar eu clyw ac yn cynnig help a gwybodaeth o'r dechrau.