Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch chi eich hun

Os ydych yn ofalwr, mae'r un mor bwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun.  Rydym yn deall y gall hyn fod yn anodd pan fyddwch yn gofalu am rywun arall.

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud yn cynnwys:

  • Cymryd rhan mewn sgrinio pan fyddwch chi'n cael eich gwahoddiad. Mae dod o hyd i gyflwr neu afiechyd yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi gael triniaeth lwyddiannus a goroesi.
  • Os cynigir apwyntiad nad yw'n gyfleus i chi, cysylltwch â'r rhaglen sgrinio i drefnu apwyntiad arall. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar y llythyr gwahoddiad. 
  • Cysylltwch â'ch awdurdod lleol, gwasanaethau gofalwyr neu sefydliadau i wirio pa gymorth sgrinio sydd ar gael yn eich ardal. Ni fyddwch yn gallu dod â’r person rydych yn gofalu amdano i’ch apwyntiad sgrinio gan na fyddwn yn gallu gofalu amdanynt.
  • Rhowch wybod am unrhyw symptomau neu newidiadau i'ch iechyd i'ch meddyg ar unwaith. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio.
  • I gael cyngor, awgrymiadau ac offer i gefnogi corff a meddwl iach, ewch i Hwb Llesiant Cynhalwyr Cymru.