Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi rhywun

Os ydych chi'n ofalwr di-dâl neu'n weithiwr gofal, mae yna bethau eraill y gallwch chi eu gwneud i gefnogi rhywun i gymryd rhan mewn sgrinio.

  • Sicrhewch fod y person yn deall pam ei fod wedi cael ei wahodd i gymryd rhan.
  • Siaradwch â nhw am sut yr hoffent i chi eu cefnogi yn eu hapwyntiad.
  • At ddibenion adnabod, byddai angen i'r gofalwr ddarparu gwybodaeth bersonol am yr unigolyn sy’n cael ei sgrinio, er enghraifft ei enw llawn a'i ddyddiad geni.
  • Efallai y bydd angen eu hanes meddygol ar y clinig a manylion unrhyw feddyginiaeth y mae'n ei gymryd. Sicrhewch fod yr wybodaeth hon yn cael ei chludo i'r apwyntiad.
  • Gwiriwch a oes angen i rywun ddod gyda'r person i'w hapwyntiad.
  • Gan y gallai'r person sy'n mynychu'r apwyntiad fod yn y clinig am beth amser, ystyriwch bacio rhywbeth i'w yfed, byrbryd ac unrhyw beth arall y gallai fod ei angen arno.
  • Efallai y bydd angen i’r unigolyn yr ydych yn ei gefnogi ddadwisgo yn ei apwyntiad. Gwiriwch y llythyr gwahoddiad, gan y gallai gynnwys gwybodaeth am beth i'w wisgo. Sicrhewch fod yr unigolyn yn gwisgo dillad sy'n hawdd eu tynnu ac sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r tymor.

Atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer iechyd a llesiant
Os oes gennych atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a llesiant yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano a’i fod wedi cael cynnig apwyntiad sgrinio, rhaid i chi ddod â’r ddogfen Atwrneiaeth Arhosol i’w apwyntiad. Bydd angen i chi hefyd ddod â'ch prawf hunaniaeth ffotograffig, fel pasbort dilys neu drwydded yrru â llun.

Mae'n bosibl y byddwch wedi cael cod actifadu sy'n cysylltu â'ch cyfrif atwrneiaeth arhosol. Fodd bynnag, ni allwn warantu bod WiFi ar gael ym mhob clinig sgrinio. Os na allwch rannu'r ddogfen LPA â ni, efallai y bydd angen i chi aildrenfu'r apwyntiad oherwydd efallai na fyddwn yn gallu sgrinio'r person hebddi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gefnogi rhywun trwy sgrinio, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r rhaglen sgrinio cyn cymryd rhan. Gallwch ymweld â'r tudalennau 'Cysylltwch â Ni' ar wefannau'r rhaglenni sgrinio.