Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i ofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi

Mae gofalwyr a darparwyr gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gael mynediad at sgrinio pan gânt eu gwahodd.

Bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu os ydych yn:

  • rhywun sydd wedi cael gwahoddiad i gael ei sgrinio ac sydd angen cymorth
  • ofalwr di-dâl
  • gweithiwr gofal, neu’n
  • weithiwr iechyd proffesiynol

Os ydych chi'n ofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun, mae'r un mor bwysig i chi ofalu am eich iechyd eich hun.

Rydym yn deall efallai nad ydych yn gweld eich hun fel gofalwr.

Dangosodd ‘Arolwg Cyflwr Gofalu, 2022’ Gofalwyr Cymru fod hanner yr holl ofalwyr wedi cymryd dros flwyddyn i gydnabod eu rôl ofalu, gyda thros draean wedi cymryd mwy na thair blynedd i gydnabod eu hunain yn ofalwr.

Os ydych chi'n ffrind neu'n aelod o'r teulu sy'n rhoi cymorth i rywun, efallai y bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn diffinio gofalwr di-dâl fel:                                                                                              
'Rhywun sy'n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Gall y person sy'n derbyn gofal fod yn aelod o'r teulu neu'n ffrind, na all ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Gallai gofalwr fod yn ŵr sy'n gofalu am ei wraig, yn rhiant sy'n gofalu am ei blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth neu'n blentyn sy'n gofalu am ei riant.'

Cymryd rhan mewn sgrinio

I wneud penderfyniad ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio, rhaid i berson gael:

  • mynediad at wybodaeth glir a chywir, mewn fformat sy'n addas i'w hanghenion
  • cymorth (os oes ei angen arnynt) i ddeall yr wybodaeth
  • amser i ystyried yr wybodaeth, a
  • chymorth pellach (os oes ei angen arnynt) i'w helpu i wneud penderfyniad. 

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio yng Nghymru, ewch i Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru