Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych yn draws neu anneuaidd.
Os ydych chi'n ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n weithiwr iechyd proffesiynol, efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi hefyd.
Bydd gwybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i ddeall pa brofion sgrinio y gallwch eu cael a phryd. Bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu a ddylech gymryd rhan ai peidio.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, bydd rhaglenni sgrinio yn eich gwahodd yn seiliedig ar eich:
Gwahoddir pobl yn dibynnu ar eu dynodwr rhywedd. Mae dynodwr rhywedd yn cyfeirio at sut rydych wedi’ch cofrestru gyda'ch meddyg, er enghraifft efallai eich bod wedi'ch cofrestru fel gwryw neu fenyw, neu'n amhenodol.
Gall eich risg o rai cyflyrau ddibynnu ar y rhyw a neilltuwyd i chi ar eich genedigaeth. Er enghraifft, os rhoddwyd chi mewn categori rhyw gwrywaidd adeg eich geni, rydych chwe gwaith yn fwy tebygol o gael Ymlediad Aortig Abdomenol na rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni.
Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig i sgrinio nad oes ei angen arnynt. Er enghraifft, os ydych wedi'ch cofrestru’n fenyw gyda'ch meddyg teulu, fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio serfigol. Os nad oes gennych geg y groth, nid oes angen i chi fod yn bresennol.
Efallai na fydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig, ond rydym yn argymell eu bod yn ystyried trefnu apwyntiad. Er enghraifft, os nad ydych wedi'ch cofrestru’n fenyw gyda'ch meddyg, ni chewch eich gwahodd i sgrinio'r fron er y gallai fod gennych fronnau.
Os credwch y dylech fod wedi cael gwahoddiad i gael prawf sgrinio, cysylltwch â'ch meddyg neu y rhaglen sgrinio. Byddant yn gallu dweud wrthych sut i gael y profion sydd eu hangen arnoch. Ewch i dudalennau 'cysylltu â ni' ar wefan y rhaglen i gysylltu â ni.
I wneud penderfyniad ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio, rhaid i berson gael:
Rydym yn deall y gallech fod yn poeni am gymryd rhan mewn sgrinio. Efallai yr hoffech chi siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, er enghraifft ffrindiau, teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.
I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio yng Nghymru, ewch i Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru