Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2020
― Beth yw canser y fron?
― Beth yw sgrinio'r fron?
― Canlyniadau sgrinio'r fron
― Gwneud dewis: buddion a risgiau posibl sgrinio'r fron
― Symptomau canser y fron
― A pwy gallaf gysylltu os oes gennyf gwestiwn
Mae'r GIG yn cynnig sgrinio I achub bywydau rhag canser y fron. Mae sgrinio'n gwneud hyn trwy ddod o hyd i ganserau'r fron yn gynnar pan maent yn rhy fach i'w gweld neu eu teimlo. Nid yw sgrinio'n eich atal rhag cael canser y fron.
Mae rhywfaint o risg i sgrinio'r fron. Bydd rhai menywod sydd yn cael eu sgrinio yn cael diagnosis ac yn cael eu trin am ganser y fron na fyddai, fel arall, byth wedi cael ei ganfod, nac achosi niwed iddynt.
Mae pob menyw 50 oed hyd at eu pen-blwydd yn 70 oed yn cael eu gwahodd ar gyfer sgrinio'r fron bob 3 blynedd. Rydym yn anfon gwahoddiadau cyntaf ar gyfer sgrinio rhywbryd rhwng eich pen-blwydd yn 50 a 53 oed.
Os ydych yn 70 oed neu'n hŷn, mae risg y byddwch yn cael canser y fron o hyd. Er na fyddwch yn cael gwahoddiadau sgrinio ar ôl eich pen-blwydd yn 70 oed yn awtomatig, mae'n bwysig eich bod yn dal yn ymwybodol o'ch bronnau. Os ydych yn sylwi ar unrhyw newidiadau sydd yn anarferol i chi, siaradwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl.
Mae canser y fron yn dechrau pan fydd celloedd yn y fron yn dechrau tyfu'n ddireolaeth ac yn datblygu i ffurfio Iwmpyn (a elwir hefyd yn diwmor). Wrth i'r canser dyfu, gall y celloedd Iedaenu i rannau eraill o'r corff a gall hyn beryglu bywyd.
Canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Mae tua 12,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser y fron bob blwyddyn. Mae goroesi'r clefyd wedi bod yn gwella dros amser, a bellach mae tua 3 ym mhob 4 menyw sydd yn cael diagnosis o ganser y fron yn fyw 10 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae eich risg o gael canser y fron yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Mae tua 4 mewn 5 o ganserau'r fron yn cael eu canfod mewn menywod dros 50 oed. Nid oes gan y rhan fwyaf o fenywod â chanser y fron hanes o'r clefyd yn y teulu.
Mae sgrinio'r fron yn defnyddio prawf pelydr-x o'r enw mamogram i edrych ar y fron am arwyddion o ganser. Gall ganfod canserau sydd yn rhy fach i'w gweld na'u teimlo.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr uned sgrinio'r fron, bydd y staff yn edrych ar eich manylion ac yn gofyn i chi am unrhyw broblemau yr ydych wedi eu cael gyda'ch bronnau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch ofyn.
Mae mamogram yn cael ei wneud gan fenywod a elwir yn famograffyddion. Bydd y mamograffydd yn esbonio Beth fydd yn digwydd i ddechrau. Bydd hi wedyn yn rhoi eich bron ar y peiriant mamogram ac yn gosod plât plastig arni i'w gwastadu. Mae hyn yn helpu i gadw eich bron yn llonydd a chael pelydr-x clir.
Bydd y mamograffydd fel arfer yn cymryd dau belydr-x o bob bron, un uwchben ac un o'r ochr. Bydd yn mynd y to ôl i sgrîn pan fydd y pelydr-x yn digwydd. Bydd yn rhaid i chi aros yn llonydd am sawl elliad bob tro.
Mae'r apwyntiad cyfan yn cymryd Ilai na 30 munud ac mae'r mamogram and yn cymryd ychydig funudau.
Astudiaethau ymchwil meddygol yw'r rhain. Bydd unrhyw dreial y byddwch yn cael ei gynnig yn casglu gwybodaeth am y mathau gorau o brofion neu driniaethau canser y fron er mwyn i ni allu helpu menywod yn fwy effeithiol yn y dyfodol. Gallwch ddewis cymryd rhan neu beldio.
I gael mamogram, bydd angen i chi ddadwisgo hyd at eich canol. Felly, gall fod yn haws gwisgo sgert neu drywsus yn Ile ffrog.
Peidiwch â defnyddlo diaroglydd chwistrell neu bowdr talc am y gall hwn ddangos i fyny ar eich mamogram. Gallwch ddefnyddlo diaroglydd rholio.
Gall cael mamogram fod yn anghyfforddus, ac mae'n boenus i rai menywod. Fel arfer, mae unrhyw boen yn mynd yn gyflym.
Byddwch yn derbyn Ilythyr gyda'ch canlyniadau sgrinio'r fron o fewn 3 wythnos ar ôl eich apwyntiad. Bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon at eich meddyg teulu hefyd.
Weithiau, bydd angen mamogram arall ar rai menywod cyn cael y canlyniad. Weithiau mae problemau technegol yn digwydd sydd yn golygu nad yw'r mamogram yn ddigon clir i'w ddarllen. Os bydd hyn yn digwydd, gofynnir I chi gael mamogram arall i gael darlun clirlach o'ch bron.
Mewn tua 96 ym bob 100 o fenywod sydd yn cael eu sgrinio, ni fydd y mamogram yn dangos unrhyw arwydd o ganser, ac ni fydd angen unrhyw brofion pellach.
Gall canser ddatblygu rhwng mamogramau. Cofiwch archwilio eich bronnau a rhoi gwybod i'ch meddyg teulu yn syth os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol.
Pun al bod y canser yn ymledol neu'n anymledol, byddwch yn cael cynnig triniaeth a gofal gan dîm o arbenigwyr canser y fron. Mae'r driniaeth yn debygol o gynnwys Ilawdriniaeth (a allai olygu mastectomi), radiotherapi, therapi hormonau a chemotherapi o bosibl. Gall y triniaethau hyn achosi sgil-effeithiau hirdymor.
Eich dewis chi yw derbyn sgrinio'r fron neu beidio. Gall fod sawl rheswm pam y mae menywod yn penderfynu derbyn sgrinio neu beidio. I'ch helpu i benderfynu, rydym wedi cynnwys gwybodaeth am y buddion a'r risgiau posibl.
Mae sgrinio yn achub bywydau rhag canser y fron
Mae bywydau'n cael eu hachub am fod canserau'n cael diagnosis a thriniaeth yn gynharach nag y byddent heb sgrinio.
Mae sgrinio'n canfod canserau'r fron na fyddai byth wedi achosi niwed i fenyw
Bydd rhai menywod yn cael diagnosis a thriniaeth am ganser y fron na fyddai byth wedi cael eu canfod fel arall ac na fyddai wedi peryglu bywyd. Dyma brif risg sgrinio.
Nid yw meddygon bob amser yn gallu dweud a fydd canser y fron y ceir diagnosis ohono yn datblygu i beryglu bywyd neu beidio, felly maent yn cynnig triniaeth i bob menyw â chanser y fron. Mae hyn yn golygu y bydd rhai menywod yn cael cynnig triniaeth nad oes ei hangen amynt.
Sgrinio'r fron: pwyso a mesur y buddion a'r risgiau posibl
Mae dadlau ynghylch faint o fywydau sydd yn cael eu hachub trwy sgrinio'r fron a faint o fenywod sydd yn cael diagnosis o ganserau na fyddai byth wedi peryglu bywyd. Y niferoedd isod yw'r amcangyfrifon gorau gan grŵp o arbenigwyr sydd wedi adolygu'r dystiolaeth.
Achub bywydau rhag canser y fron
Mae sgrinio yn achub tua 1 bywyd rhag canser y fron am bob 200 o fenywod sydd yn cael eu sgrinio. Mae hyn yn rhoi cyfrif am ryw 1,300 o fywydau sydd yn cael eu hachub rhag canser y fron bob blwyddyn yn y DU
Canfod canserau na fyddai byth wedi achosi niwed i fenyw
Mae tua 3 ym mhob 200 o fenywod sydd yn cael eu sgrinio bob 3 blynedd o 50 oed hyd at eu pen-blwydd yn 70 oed yn cael diagnosis o ganser na fyddai byth wedi cael el ganfod heb sgrinio ac na fyddai byth wedi peryglu bywyd. Mae hyn yn rho cyfrif am ryw 4,000 o fenywod bob blwyddyn yn y DU sydd yn cael cynnig triniaeth nad ydynt ei hangen.
Yn gyffredinol, am bob 1 menyw y mae ei bywyd yn cael ei achub rhag canser y fron, mae tua 3 menyw yn cael diagnosis o ganser na fyddai byth wedi peryglu bywyd.
Mae ymchwilwyr yn ceisio canfod ffyrdd gwell o ddweud pa fenywod sydd â chanserau'r fron fydd yn peryglu bywyd a pha fenywod sydd â chanserau na fydd yn gwneud hynny.
Os byddwch yn dod i wybod sut mae eich bronnau'n edrych ac yn teimlo fel arfer, byddwch yn fwy tebygol o sylwi ar unrhyw newidiadau a allai fod yn arwydd o ganser y fron. Mae hyn yn bwysig hyd yn oed os ydych wedi derbyn sgrinio'r fron. Edrychwch am:
Os bydd gennych unrhyw newid yn eich bron, dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu yn syth. Efallai nad oes gennych ganser. Ond os oes, gall cael diagnosis a thriniaeth yn ystod cyfnod cynnar olygu eich bod yn fwy tebygol o oroesi canser y fron.
Bydd Rhaglen Sgrinio'r Fron y GIG yn cadw eich mamogramau am 8 mlynedd o leiaf. Mae'r rhain yn cael eu cadw'n ddiogel. Mae'r rhaglen yn gwirio cofnodion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth mor dda â phosibl. Gall fod angen i staff mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion ar gyfer hyn, ond bydd eich cofnodion ond yn cael eu rhannu gyda phobl sydd angen eu gweld.
Byddwn yn adolygu eich canlyniadau sgrinio blaenorol os byddwch yn cael diagnosis o ganser y fron rhwng apwyntiadau sgrinio. Gallwch weld canlyniadau'r adolygiad hwn os byddwch yn dymuno.
Os oes gennych gwestiynau am sgrinio, cysylltwch â'ch uned sgrinio'r fron leol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg yn ddi-oed.
Os hoffech siarad â rhywun ynghylch cael sgrinio'r fron neu beidio, gall eich meddyg teulu helpu. Gyda'ch gilydd, gallwch bwyso a mesur y buddion a'r risgiau posibl, i'ch helpu i benderfynu.
Eich dewi chi yw cael eich sgrinio neu beidio. Os byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau mwy o wahoddiadau, gallwch optio allan. Ffoniwch eich Canolfan Sgrinio'r Fron agosaf i ganfod sut i wneud hynny.
Mae Rhaglenni Sgrinio'r GIG yn defnyddio gwybodaeth bersonal adnabyddadwy amdanoch chi er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwahoddiad ar gyfer sgrinio ar yr adeg iawn. Mae Bron Brawf Cymru hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i sicrhau eich bod yn cel gofal o ansawdd uchel. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am hyn:
Datblygwyd y daflen hon gan dîm annibynnol o arbenigwyr gwybodaeth yn King's Health Partners, gyda chyngor a chymorth ysgrifennu gan Ymchwil Canser y DU.
Trwy ymgynghoriad cyhoeddus, cyfrannodd dros 1000 o aelodau o'r cyhoedd at ddatblygu'r ymagwedd tuag at wybodaeth am raglenni sgrinio canser y GIG.
Cefnogodd y sefydliadau canlynol yr ymgynghoriad: Beating Bowel Cancer, BME Cancer Communities, Bowel Cancer UK, Breakthrough Breast Cancer, Ymgyrch Canser y Fron, Breast Cancer Care, Ymchwil Canser y DU, Independent Cancer Patients' Voice, Jo's Cervical Cancer Trust a'r Fforwm Gwybodaeth I Gleifion.
Defnyddiodd y wybodaeth yn y daflen hon argymhellion gan reithgor dinasyddion o 25 o fenywod ynghylch sut i gyflwyno buddion a risgiau posibl sgrinio'r fron.
Gallwch ailddefnyddio'r wybodaeth hon (ac eithrio logos) yn rhad ac am ddim ar unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol â Thrwydded Llywodraeth Agored v3,0. Os ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatad gan ddeiliaid yr hawlfraint perthnasol.