Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniadau

Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o fanylion am y cyfrifiadau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn.

 

Cymwys  

Yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu ac wedi'i ddiffinio fel rhan o garfan briodol a wahoddwyd mewn cyfnod amser.

Canran y rhai sy'n cael eu sgrinio

Cafodd cyfranogwyr eu cyfrif fel rhai a ymatebodd i'w gwahoddiad os cawsant eu gwahodd yn ystod y cyfnod amser Ebrill – Mawrth ac aethant i gael eu sgrinio o fewn chwe mis i'r gwahoddiad.

Cwmpas

Cyfran y boblogaeth gymwys a wahoddwyd a'i sgrinio o fewn y cyfnod amser priodol.

Amddifadedd

Cafodd cwintelau amddifadedd eu pennu drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2014, a'u mesur ar lefel ardal cynnyrch ehangach haen is. Mae ardaloedd cynnyrch ehangach haen is wedi'u graddio i gwintelau Cymru gyfan er mwyn gallu eu cymharu rhwng byrddau iechyd. Mae hyn yn golygu na fydd cyfran gyfartal o bobl ym mhob cwintel pan fyddwch yn ystyried pob bwrdd iechyd e.e. yn Sir Fynwy, mae 40% o'r boblogaeth yn byw yn y cwintel â'r amddifadedd lleiaf yng Nghymru, ond nid oes unrhyw ardaloedd yn y cwintel â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru.

Bwrdd Iechyd

Dyma'r bwrdd iechyd preswyl.