Mae amrywiad daearyddol o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ar lefel bwrdd iechyd ac awdurdod lleol.
Mae graddiant cymdeithasol o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ar draws yr holl raglenni sgrinio oedolion. Roedd pobl a oedd yn byw yn ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig sgrinio o gymharu â'r rhai sy'n byw yn y cymunedau â'r amddifadedd lleiaf.
Ar gyfer rhaglenni sy'n gwahodd pobl ar draws grwpiau oedran mae anghydraddoldeb o ran canran y rhai sy'n manteisio ar y cynnig sgrinio gyda phobl mewn grwpiau oedran iau yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig sgrinio na phobl mewn grwpiau oedran hŷn.
Ar gyfer rhaglenni sy'n gwahodd pob rhywedd i gymryd rhan mewn sgrinio, mae anghydraddoldeb o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio gyda dynion yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig na menywod, er bod y bwlch anghydraddoldeb yn fach.
Ar gyfer rhaglenni lle mae pobl yn cael eu gwahodd fwy nag unwaith, mae pobl sydd wedi mynychu'n flaenorol yn fwy tebygol o ymateb i wahoddiadau dilynol.