Neidio i'r prif gynnwy

Adran 4 - Data Ar Anghydraddoldeb O Ran Canran Y Rhai Sy'n Cael Eu Sgrinio

Ar hyn o bryd mae sgrinio'n casglu gwybodaeth a geir o gofrestrau Ymarfer Cyffredinol er mwyn gwahodd cyfranogwyr cymwys. Mae hyn yn golygu ein bod ar hyn o bryd yn cadw data i allu archwilio anghydraddoldeb o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio yn ôl oedran (gan ein bod yn casglu dyddiad geni), rhywedd, a lleoliad daearyddol (gan ein bod yn gwybod y cyfeiriad cartref a lleoliad y practis meddyg teulu hefyd) a gallwn gael mesur amddifadedd sy'n seiliedig ar ardal.

Rydym yn cyflwyno'r data un rhaglen ar y tro, gan edrych ar y mesurau canlynol:

Ardal Ddaearyddol

Mae sgrinio yn cael ei ddarparu fel rhaglenni Cymru gyfan ar draws ardaloedd daearyddol pob un o'r saith bwrdd iechyd. Mae rhaglenni sgrinio yn cael eu cyflwyno drwy ddefnyddio modelau mynediad gwahanol gan gynnwys sgrinio yn y cartref, cyflwyno gan ofal sylfaenol a lleoliadau sgrinio mewn canolfannau gofal iechyd a chlinigau symudol. Er mwyn deall a yw pobl yn manteisio ar sgrinio yn gyfartal ledled Cymru, mae canran y rhai sy'n cael eu sgrinio/cwmpas wedi'u harchwilio yn ôl lleoliad daearyddol cyfranogwyr cymwys.  Diffinnir lleoliad daearyddol drwy ddefnyddio cyfeiriad cartref y cyfranogwr a wahoddwyd, ac yna ei ddyrannu i'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol.

Amddifadedd

Rydym yn edrych ar amddifadedd gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, MALlC. Pennir sgôr gan ystyried nifer o ddangosyddion gwahanol gan gynnwys incwm a chyflogaeth, yn seiliedig ar yr ardal fach (Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is) lle mae'r cyfranogwr yn byw. Yn yr adroddiad hwn, mae Cwintel 1 yn cyfeirio at y rhai sy'n byw yn y pumed â'r amddifadedd lleiaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru ac mae Cwintel 5 yn cyfeirio at y rhai sy'n byw yn y pumed â'r amddifadedd mwyaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru.

Oedran

Mae'r tair rhaglen sgrinio canser a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn gwahodd cyfranogwyr ar sail cyfnodau. Felly gellir archwilio canran y rhai sy'n cael eu sgrinio/cwmpas ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Bydd oedran cyfranogwyr a wahoddir hefyd yn dylanwadu ar ba fath o wahoddiad y mae'r unigolyn wedi'i gael, gan y bydd y grwpiau oedran ieuengaf yn cael eu gwahodd am y tro cyntaf a'r grwpiau oedran hŷn yn cael eu gwahodd am apwyntiad ailalw.

Rhywedd

Nid yw cymhwystra ar gyfer y rhaglenni sgrinio Coluddyn a llygaid Diabetig yn dibynnu ar rywedd, felly gellir archwilio'r gwahaniaeth o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio gan ddefnyddio'r rhywedd a gofnodir ar y system meddygon teulu.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sgrinio i bobl draws neu anneuaidd yma: Gwybodaeth i bobl sydd yn Drawsryweddol neu Anneuaidd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Math o Wahoddiad

Y gwahanol fathau o wahoddiad rydym yn edrych arnynt yw'r rhai a wahoddir am y tro cyntaf, y rhai sydd wedi'u gwahodd yn flaenorol ond nad oeddent wedi manteisio ar y gwahoddiad (unigolyn nad ymatebodd yn flaenorol), a'r rhai sydd wedi'u gwahodd yn flaenorol ac wedi cymryd rhan yn flaenorol (ymatebydd blaenorol). Mae hyn yn ddiddorol i'w archwilio fel y gallwn weld a yw ymddygiad yn wahanol yn y grwpiau gwahanol ac a allem gael budd o dargedu ymyriadau at grŵp penodol.