Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Cefndir

Nod sgrinio yw canfod camau cynnar clefyd neu atal clefyd rhag digwydd. Drwy nodi pobl sydd â mwy o siawns o gael cyflwr iechyd, gellir cynnig opsiynau triniaeth mwy effeithiol, neu ddarparu gwybodaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau am eu gofal yn y dyfodol. Gall sgrinio hefyd leihau'r siawns o ddatblygu cyflwr difrifol, atal salwch a'r niwed a fyddai wedi digwydd fel arall.


Mae'r adran sgrinio yn cyflwyno'r saith rhaglen sgrinio genedlaethol yng Nghymru:

  1.  Bron Brawf Cymru

  2. Sgrinio Coluddion Cymru

  3. Sgrinio Serfigol Cymru

  4.  Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

  5.  Sgrinio Clyw Babanod Cymru

  6. Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

  7. Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

Is-adran sgrinio hefyd yn cydlynu ac yn rheoli rhwydwaith clinigol Sgrinio Cyn Geni Cymru gyda sgrinio'n cael ei ddarparu gan fyrddau iechyd yng Nghymru fel rhan o ofal cyn geni rheolaidd yn ystod beichiogrwydd.

Mae gan bob un o'r rhaglenni garfan wahanol o ran poblogaeth gymwys sy'n cael eu gwahodd i gael eu sgrinio ar gyfnodau amser gwahanol (tabl 1).

 

Tabl 1: Carfannau Poblogaeth a Wahoddir ar gyfer Rhaglenni Sgrinio Cenedlaethol yng Nghymru

 

Rhaglen

Poblogaeth

Cyfnod Sgrinio

Sgrinio Cyn Geni Cymru

Menywod beichiog

Yn unol â gofal cyn geni rheolaidd

Bron Brawf Cymru

Menywod a phobl â bronnau 50-70 oed

Bob 3 blynedd

Sgrinio Coluddion Cymru

Pobl 55*-74 oed

Bob 2 flynedd

Sgrinio Serfigol Cymru

Menywod a phobl â cheg y groth 25-64 oed

Bob 3 blynedd 25-49 oed**

Bob 5 mlynedd 50-64 oed

Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

Babanod newydd-anedig o amgylch 5 diwrnod o fywyd

Sgrinio untro

Sgrinio Clyw Babanod Cymru

Babanod newydd-anedig o fewn wythnosau cyntaf eu bywyd

Sgrinio untro

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Pobl â diabetes 12 oed a throsodd

Bob blwyddyn fel arfer gyda Llwybr Ailalw Risg isel ar wahân ***

Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

Dynion 65 oed

Sgrinio untro

*mae rhaglen optimeiddio sgrinio coluddion yn mynd rhagddi, gan symud yn raddol tuag at ystod oedran 50-74 oed dros y blynyddoedd nesaf

**roedd ailalw rheolaidd ar gyfer cyfranogwyr na chanfuwyd HPV yn y sampl 25 i 49 oed wedi newid i 5 mlynedd o fis Ionawr 2022

*** Cyflwynwyd Llwybr Ailalw Risg Isel ym mis Gorffennaf 2023 gyda chyfnod sgrinio 2 flynedd i'r rhai sy'n gymwys (cyfranogwyr â dau ganlyniad sgrinio heb dystiolaeth o glefyd y llygaid yn y naill lygad na'r llall ers mis Ebrill 2019)

 

 

Mae p'un ai i gymryd rhan mewn sgrinio ai peidio yn ddewis i'r unigolyn sy'n gyson â'i werthoedd a'i amgylchiadau unigryw. Fodd bynnag, mae rhai pobl nad ydynt yn mynd ati i wneud penderfyniad i wrthod sgrinio, ond nid ydynt yn gallu manteisio ar eu cynnig oherwydd amrywiaeth o rwystrau cydgysylltiedig. Gall y rhwystrau hyn gynnwys heriau logistaidd neu gorfforol a ysgogir gan ffactorau economaidd neu amgylcheddol sy'n lleihau mynediad at leoliadau lle mae sgrinio'n digwydd. Efallai na fydd pobl eraill wedi cael gwybodaeth mewn ffordd sy'n eu galluogi i gael y wybodaeth angenrheidiol i wneud dewis gwybodus. Efallai na fydd eraill yn ystyried sgrinio ataliol fel rhan o'u norm cymdeithasol neu eu hunaniaeth ddiwylliannol. Gall y rhwystrau hyn fod yn berthnasol yn genedlaethol neu'n lleol a gallant fod yn benodol i raglen neu ymwneud â chymuned neu unigolyn.

Cafodd yr holl raglenni sgrinio oedolion eu hoedi o 19 Mawrth 2020 oherwydd pandemig COVID-19, gydag adfer y rhaglenni yn raddol gan ddechrau ym mis Mehefin 2020 ar gyfer Sgrinio Serfigol Cymru, wedi'i dilyn gan Sgrinio Coluddion Cymru ym mis Gorffennaf 2020, Bron Brawf Cymru a Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru ym mis Awst 2020 a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru ym mis Medi 2020. Cafodd yr oedi dros dro pan nad oedd modd sgrinio cyfranogwyr ei ddilyn gan lai o gapasiti i wahodd cyfranogwyr i gael eu sgrinio yn ystod y broses o adfer gwasanaethau. Cafodd adferiad rhaglenni sgrinio, lle mae'r holl gyfranogwyr a ohiriwyd wedi dal i fyny, ei gyflawni ar gyfer Coluddion ym mis Hydref 2021 a Serfigol ym mis Rhagfyr 2021 ac Ymlediadau ym mis Mawrth 2023 gydag adferiad llawn Bron Brawf Cymru a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn dal i fynd rhagddo.