Ni chyflwynir data yma ar gyfer y Rhaglenni Newydd-anedig a Chyn Geni.
Ar gyfer Sgrinio Clyw Babanod a Smotyn Gwaed Newydd-anedig, mae hyn oherwydd bod canran y rhai sy'n cael eu sgrinio/cwmpas yn gyson yn uchel iawn ac nid oes amrywiaeth a welir gan y ffactorau y gallwn eu mesur. Ar gyfer Sgrinio Cyn Geni Cymru, mae hyn oherwydd mai'r byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu'r sgrinio ac mae'r data yn eiddo iddyn nhw, ond hefyd mae rhai elfennau o'r rhaglen yn canolbwyntio ar alluogi dewis felly nid yw'n briodol edrych ar fesurau o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod anghydraddoldeb yn ddibwys yn y rhaglenni hyn – mae camau gweithredu o'r Strategaeth Cydraddoldeb yr un mor berthnasol i'r garfan hon o gyfranogwyr ac maent yn flaenoriaeth ar gyfer y rhaglenni. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn sgil adroddiadau diweddar sy'n tynnu sylw at anghydraddoldeb gwirioneddol o ran canlyniadau i famau a babanod.