Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur uchder a phwysau plant dosbarth derbyn.
Rydym am ddysgu sut mae plant yng Nghymru yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gydlynu y Rhaglen Mesur Plant ac mae pob bwrdd iechyd Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen.
Canlyniadau Diweddaraf
At ddibenion gwyliadwriaeth, mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data lefel poblogaeth o ganfyddiadau allweddol y Rhaglen Mesur Plant ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
- Cynigiwyd mesuriadau taldra a phwysau arferol gan dimau nyrsio ysgol i bob plentyn 4-5 oed sy'n mynychu dosbarth derbyn ac sy’n byw yng Nghymru. Adroddir y data hyn yn Genedlaethol er mwyn hwyluso gwyliadwriaeth.
- Ar draws Cymru gyfan, roedd canran debyg o blant (93.4%) wedi cael eu pwyso a'u mesur eleni o gymharu â’r ganran cyn y pandemig.
- Yng Nghymru gyfan, cyfran y plant gyda phwysau iach oedd 73.5%, sy'n gyfran ychydig yn is o gymharu â'r llynedd (74.3%) ond yn fwy arwyddocaol yn ystadegol na'r lefelau cyn y pandemig (72.4%).
- Yng Nghymru gyfan, cyfran y plant sy’n byw gyda thros bwysau neu ordewdra oedd 13.7% ac 11.8% yn y drefn honno.
- Roedd cyfran y plant gyda gordewdra yng Nghymru yn uwch na'r hyn a adroddwyd ar gyfer Lloegr ac ar gyfer yr Alban.
- Roedd plant sy'n byw yn y 'pumed â’r amddifadedd mwyaf’ yn fwy tebygol o fod yn byw gyda thros bwysau neu ordewdra o'u cymharu â'r pumed â’r amddifadedd lleiaf, y pumed nesaf â’r amddifadedd lleiaf, y pumed canol a'r pumed nesaf â’r amddifadedd mwyaf.
- Roedd bechgyn yn arwyddocaol mwy tebygol yn ystadegol o fod dan bwysau o'u cymharu â merched. Cyfran y bechgyn dan bwysau oedd 1.3% o gymharu â 0.6% ar gyfer merched.
- Dangosodd canlyniadau eleni wahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Cyfran y plant mewn ardaloedd gwledig sy’n byw gyda thros bwysau neu ordewdra oedd 26.8% o gymharu â 25.0% mewn ardaloedd trefol.