Ein nod yw dylanwadu ar bolisi a’i lywio ar lefel genedlaethol a lleol, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid eraill i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau.
Mae’r Is-adran yn cynnwys y timau canlynol:
: Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi pawb sydd yn gweithio ym maes iechyd y cyhoedd, waeth pa sector neu ddisgyblaeth, i hybu a llywio arfer gorau mewn polisi gwella iechyd, ymarfer ac ymchwil.
: Rôl yr Uned yw cefnogi datblygiad a defnydd effeithiol o ymagwedd asesu effaith ar iechyd (HIA) yng Nghymru trwy gydweithredu a darparu hyfforddiant, arweiniad, gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar ymarfer HIA.
: Mae’r Hyb yn cynorthwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru i fodloni ei ddyletswyddau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i gynyddu’r cyfleoedd i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau.Arweinydd: Dr Sumina Azam