Mae’r Is-adran Iechyd Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wella dysgu o bolisi, ymarfer ac ymchwil ryngwladol er mwyn cefnogi arloesi ym maes iechyd y cyhoedd; datblygu pobl a sefydliadau sy’n gyfrifol yn fyd-eang ar draws y GIG; hwyluso cydweithredu rhyngwladol a buddsoddiad yng Nghymru; a chryfhau effaith iechyd fyd-eang Cymru trwy rannu ein hasedau a chyfrannu at ddiogelwch iechyd byd-eang a datblygu cynaliadwy.
Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Rhaglen Cymru o Blaid Affrica, Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, EuroHealthNet a phartneriaid cenedlaethol, y DU a rhyngwladol allweddol eraill, gan ddatblygu synergeddau a hybu cyfleoedd.
Rydym yn cynnal Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) ac wedi datblygu Strategaeth Iechyd Ryngwladol deg mlynedd.
Arweinydd: Dr Mariana Dyakova