Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg yw Gwên am byth a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol Cymru a’i brif nod yw gwella iechyd a hylendid y geg ymhlith pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Nodau hanfodol y rhaglen yw sicrhau bod:-
- polisi cyfredol ar waith ar gyfer gofal y geg ym mhob cartref gofal;
- staff wedi cael hyfforddiant mewn gofal y geg (gan gynnwys mewn sesiynau cynefino) a bod y cartref yn cadw cofrestr hyfforddiant;
- preswylwyr yn cael asesiad gofal y geg ar adegau priodol er mwyn canfod unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar iechyd y geg;
- yr asesiad yn arwain at gynllun gofal unigol, sydd wedi’i gynllunio i sicrhau hylendid y geg da sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd; a
- bod cartrefi gofal yn ymwybodol o sut i sicrhau bod gofal a thriniaeth ddeintyddol briodol ar gael pan fo angen.
Bydd llawer o’r adnoddau ar y tudalennau hyn hefyd yn ddefnyddiol i ofalwyr di-dâl, darparwyr gofal cartref a staff iechyd a gofal cymdeithasol.