Nod ein gwasanaeth yw cydweithio mewn ffordd seiliedig ar dystiolaeth i atal a lleihau cyswllt â pheryglon amgylcheddol a salwch yn sgil hynny, a chefnogi creu amgylcheddau a chymunedau iach, teg a chynaliadwy.
Yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa Cymru Canolfan Ymbelydredd, Cemegau a Pheryglon Amgylcheddol (CRCE-Wales) Public Health England yn cydweithio i ddarparu i asiantaethau partner a’r cyhoedd gyngor a chefnogaeth annibynnol ac arbenigol ar iechyd cyhoeddus amgylcheddol. Fel sy’n briodol, rydym hefyd yn cael cyngor gan arbenigwyr ar epidemioleg, tocsicoleg a meysydd eraill yn y ddau sefydliad.