Neidio i'r prif gynnwy

Lefelau Paill Uchel

Mae paill yn gallu achosi adwaith alergaidd, yn cynnwys clefyd y gwair; gall hyn waethygu rhai cyflyrau, fel asthma.

Mae lefel y paill a’r math o baill yn yr aer yn newid yn ôl adeg y flwyddyn a'r ardal. Fel arfer, bydd clefyd y gwair yn cael ei achosi gan baill glaswellt ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf.

Bydd Swyddfa Dywydd y DU yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau paill yn eu rhagolygon. Mae'n syniad da i chi ddeall pa lefelau sy'n effeithio arnoch chi.

Gall stormydd o fellt a tharanau achosi asthma. Bydd hyn yn digwydd wrth i aer llaith gyfuno â phaill a chael ei chwythu o gwmpas.