Neidio i'r prif gynnwy

Diogel yn yr haul

Cyngor i oedolion a phlant ar eli haul a diogelwch yn yr haul.

Mae llosg haul yn cynyddu eich risg o ganser y croen. Nid dim ond ar wyliau neu pan fo’r tywydd yn boeth y mae llosg haul yn digwydd. Gallwch losgi yn y DU, hyd yn oed pan mae'n gymylog ac yn oer.

Does dim unrhyw ffordd ddiogel nac iach o gael lliw haul. Dydy lliw haul ddim yn amddiffyn eich croen rhag effeithiau niweidiol yr haul.

Ceisiwch gael cydbwysedd rhwng amddiffyn eich hun rhag yr haul a chael digon o fitamin D o olau'r haul.