Neidio i'r prif gynnwy

Camau i'w cymryd os oes gan eich plentyn lefel plwm uchel yn y gwaed

Os bydd rhywun yn dod i gysylltiad â phlwm gall niweidio ei iechyd. Gall hyn ddigwydd os ydynt wedi dod i gysylltiad â llawer o blwm neu ychydig bach dros gyfnod hir. Er na allwch chi weld yr effeithiau hyn bob amser, rydyn ni'n gwybod y gall plwm gael effaith ar b’un a yw plant yn tyfu ac yn datblygu'n iach. 

Bydd eich meddyg yn siarad â chi am pam y cymerwyd y prawf hwn, beth mae'r canlyniad yn ei olygu a phryderon iechyd a allai fod gennych.

Dilynwch y camau a amlinellir isod i amddiffyn eich plentyn ac aelodau eraill o'r teulu rhag dod i gysylltiad â phlwm

Efallai y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cysylltu i ddeall rhagor am sut y gallai eich plentyn fod wedi bod mewn cysylltiad â phlwm. 

Sut gallai fy mhlentyn fod wedi dod i gysylltiad â phlwm?

Gall rhywun gael plwm i mewn i'w gorff os ydyn nhw'n ei fwyta (ei lyfu / ei gyffwrdd â'i geg / ei gnoi), ei yfed neu ei anadlu i mewn. Yn y DU, mae'n bosibl bod plentyn wedi dod i gysylltiad â phlwm drwy’r canlynol: 

  • Rhoi pethau sy'n cynnwys plwm yn ei geg
    • Eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd fel pridd, llwch, hen deganau neu wrthrychau wedi'u peintio, neu bethau sydd wedi'u gwneud dramor ac nad ydynt yn bodloni safonau'r DU neu'r UE
    • Meddyginiaethau traddodiadol, sbeisys neu fwyd, sydd wedi'u dwyn o wlad arall; neu fwyd sydd wedi'i goginio mewn potiau sy'n cynnwys plwm.
  • Hen bibellau neu baent
    • Yfed dŵr tap sydd wedi dod trwy bibell blwm neu lle defnyddiwyd sodro plwm - dim ond mewn cartrefi hŷn y mae hyn yn digwydd fel arfer.
    • Yn y gorffennol defnyddiwyd plwm yn rheolaidd i wneud paent. Gall paent tolciog ac addurno ryddhau hen baent neu lwch paent yn y cartref, y gallai plentyn ei gael yn ei geg neu ei anadlu i mewn.
  • Bod o gwmpas plwm a ddygwyd i'r cartref trwy waith neu hobïau
    • Gall plant ddod i gysylltiad â gwrthrychau, llwch neu fwg sy'n cynnwys plwm sy'n gysylltiedig â gwaith neu hobïau oedolyn (megis ailgylchu batris, plymio, toi, saethu, gwneud a defnyddio pwysau pysgota a modelau cast, neu wneud gwydr lliw).

Beth alla i ei wneud i helpu i atal fy mhlentyn rhag dod i gysylltiad â phlwm?

Mae plant sy'n rhoi eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd yn eu ceg yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â phlwm. Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i helpu eich plentyn i leihau hyn:

Atal ymddygiadau niweidiol 

Rhwystrwch eich plentyn yn ofalus rhag rhoi eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd (fel pridd) yn ei geg.

Ceisiwch atal eich plentyn rhag pigo neu gnoi ardaloedd neu bethau sydd wedi'u paentio.

Cadwch eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd y mae eich plentyn yn aml yn ceisio eu rhoi yn ei geg allan o'i olwg a'i gyrraedd (e.e. mewn cwpwrdd dan glo).

Cadwch y lloriau'n glir o eitemau y gallai eich plentyn eu rhoi yn ei geg o'r llawr.

Cefnogwch ymddygiadau gwell

Dysgwch eich plentyn y gwahaniaeth rhwng bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd (e.e. rhoi gwobrau iddo pan fydd yn dewis bwyd yn hytrach nag eitemau nad ydynt yn fwyd; ei helpu i ddidoli bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd i wahanol flychau)

Gwobrwywch eich plentyn am beidio â bwyta eitemau nad ydynt yn fwyd am gyfnod penodol o amser

Gwobrwywch eich plentyn pan fydd yn gofyn am ddewisiadau amgen diogel yn lle eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd.

Dysgwch eich plentyn ble gall ddod o hyd i ddewisiadau amgen diogel yn lle eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd

Rhowch deganau cnoi neu deganau synhwyraidd diogel i'ch plentyn (gwnewch nhw wrth law yn rhwydd, neu cyfnewidiwch opsiynau anniogel am y rhain pan welwch eich plentyn gyda nhw).

Golchwch ddwylo'ch plentyn gyda dŵr a sebon yn rheolaidd.

Gwnewch fyrbrydau sy'n teimlo'n debyg i'r eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd y mae eich plentyn yn eu hoffi sydd ar gael yn rheolaidd.

 

Gall y pethau rydyn ni'n eu dwyn i'n cartrefi arwain at blant yn dod i gysylltiad â phlwm. Dyma rai newidiadau y gallwch eu gwneud yn ac o amgylch eich cartref i leihau cyswllt eich plentyn â phlwm:

Teganau

Gwiriwch fod teganau eich plentyn yn ddiogel
chwiliwch am y marciau diogelwch hyn
:

Dŵr

Defnyddiwch ddŵr o'r tap oer yn unig ar gyfer yfed, coginio a gwneud fformiwla babi.

 

Os hoffech i'ch cyflenwad dŵr gael ei brofi am blwm, gallwch siarad â'ch cwmni dŵr ynghylch sut mae trefnu hyn, neu siaradwch â'ch awdurdod lleol os ydych yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat.

Paratoi bwyd a meddyginiaeth

 

Prynwch feddyginiaethau, sbeisys, bwydydd neu offer coginio gan gyflenwyr yn y DU sy'n gwerthu pethau sy'n bodloni safonau diogelwch y DU yn unig. 

Gwaith DIY ac Addurno

Byddwch yn ofalus os ydych chi'n gwneud gwaith DIY neu'n addurno. Os yw'ch plentyn yn pigo ar waith paent, a bod y tŷ wedi'i adeiladu cyn y 1960au, mae'n bosibl y byddant yn bwyta naddion o baent plwm o haenau isaf o baent nad ydynt wedi'u tynnu'n llwyr.  Gall llwch a grëir wrth dynnu paent plwm ryddhau rhagor o blwm. Dim ond gweithiwr proffesiynol sy'n arbenigo mewn profi am baent plwm y dylai ei dynnu oddi yno’n ddiogel.  Mae cwmnïau ledled Cymru yn cynnig y gwasanaeth hwn. Y dulliau lliniaru tymor byr gorau yw atal mynediad i'r ystafell, blocio'r ardal baent gyda dodrefn neu gorchuddio gyda phersbecs neu blastig. Y dulliau lliniaru tymor byr gorau yw atal mynediad i'r ystafell, blocio'r ardal baent gyda dodrefn neu gorchuddio gyda phersbecs neu blastig.

Gwaith a hobïau

Os ydych chi'n gweithio gyda phlwm neu'n ei ddefnyddio yn eich hobïau, gwnewch yn siŵr nad yw'ch teulu'n dod i gysylltiad â phlwm, mygdarth plwm na llwch. Dilynwch gyngor iechyd a diogelwch (cliciwch yma am gamau ymarferol y gallwch eu cymryd).

 

Bydd dilyn y camau hyn yn helpu i amddiffyn eich plentyn ac aelodau'r teulu rhag dod i gysylltiad â phlwm.

 

Dilynwch y dolenni hyn i gael rhagor o wybodaeth:

Iechyd Cyhoeddus Cymru:  Dod i gysylltiad â Phlwm  

Partneriaeth Iechyd Dŵr Cymru: Taflen ffeithiau am blwm mewn dŵr yfed