Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cosfa'r nofiwr?

Mae cosfa’r nofiwr yn frech croen sy’n cosi. Mae’n cael ei achosi gan adwaith alergedd i fath o lyngyr lledog bach sydd i’w ganfod yn naturiol mewn dŵr agored.

Mae'r llyngyr lledog bach sy'n achosi cosfa’r nofiwr yn byw ym mhob rhan o'r byd, mewn dyfroedd awyr agored neu ddyfroedd 'agored' naturiol, fel llynnoedd a pyllau. Maen nhw mor fach fel na allwn ni eu gweld, felly nid yw'n bosibl gwybod pryd maen nhw yno.
Nid yw'r llyngyr lledog hyn yn heintio pobl, ond gallant achosi cosi os byddant yn dod i gysylltiad â chroen person. Ni all y 'cosi' ledaenu o un person i'r llall, mae angen cyswllt uniongyrchol â'r llyngyr.

Gall unrhyw un sydd mewn cysylltiad â’r llyngyr lledog gael cosfa’r nofiwr – gallai hyn fod wrth nofio, trochi, cerdded neu badlo mewn dyfroedd awyr agored.