Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Rhaglen Gwella Iechyd Anabledd Dysgu

17/12/20
Pa waith mae'r Cymru Anabledd Dysgu yn ei wneud?

Mae Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau yn rhaglen drawsnewid gan Lywodraeth Cymru, wedi’i lletya gan Welliant Cymru. Mae’r rhaglen wedi nodi pum maes â blaenoriaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac i wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Mae ein tîm yn cefnogi cyflawni’r amcanion iechyd yn y rhaglen. Mae gennym bedair ffrwd waith gydgysylltiedig:

  • Iechyd Corfforol       
  • Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Gwasanaethau Arbenigol   
17/12/20
Pa fforymau a chyfarfodydd ydyn ni'n eu mynychu?
  • Grŵp Cynghori Gweinidogol Anabledd Dysgu (LDMAG)
  • Grŵp Llywio Digwyddiadau Anffafriol Difrifol Cenedlaethol
  • Bwrdd Prosiect Set Data Craidd Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl Cenedlaethol
  • Grŵp Llywio Marwolaethau Cenedlaethol
  • Consortiwm Anabledd Dysgu
  • Grŵp Nyrsio Anabledd Dysgu Cymru Gyfan
  • Grŵp Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwella Bywydau a Chanlyniadau Iechyd
17/12/20
Beth yw'r camau nesaf?

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio ar y canlynol:

  • Cyhoeddi Proffil Iechyd Unwaith i Gymru wedi’i adnewyddu, gydag addasiad ar gyfer hyd oes, a pharhau i’w hyrwyddo fel offeryn diogelwch cleifion
  • Cwblhau’r adnodd Darparu Gofal Iechyd ac archwilio cyfleoedd i amrywio’r defnydd o Archwiliadau Iechyd 
  • Cymorth a chyfathrebu parhaus mewn perthynas â’r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd fel casgliad data yn ystod COVID-19
  • Bwrw ymlaen â datblygiad y Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd Plant a Phobl Ifanc
  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu’r ymgyrch frechu eang ar gyfer pobl ag anableddau dysgu 
  • Datblygu a lansio pecyn cymorth i deuluoedd mewn perthynas â Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol
  • Adnoddau hunangymorth hygyrch a dwyieithog sy’n berthnasol, ar sail tystiolaeth, yn ystod COVID-19
  • Cefnogi casglu data mewn perthynas ag Arferion Cyfyngol ledled Cymru
  • Sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus cenedlaethol mewn perthynas â COVID-19 wedi’u cynhyrchu mewn fformat hygyrch
  • Cwblhau a lansio’r Fframwaith Addysg Anabledd Dysgu ar gyfer Staff Gofal Iechyd yng Nghymru
17/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu i gael mwy o wybodaeth?

I ddarganfod rhagor am y rhaglen, cysylltwch â Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd y Rhaglen Anableddau Dysgu Genedlaethol rachelann.jones@wales.nhs.uk