Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnoddau 'Yn ôl i Fywyd Cymunedol' i helpu pobl ar ôl COVID-19

Mae ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ gan Gwelliant Cymru yn cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi a dychwelyd i fywyd cymunedol ers y pandemig.  Mae'r rhain yn cynnwys pobl â dementia, pobl oedd gynt yn gwarchod eu hunain, neu bobl sy'n agored i niwed. 

Dechreuwyd y fenter yn Aberpennar ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â phobl leol, yr heddlu, asiantaeth wirfoddoli leol, trafnidiaeth leol, yr awdurdod lleol, y trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a busnesau, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r deunyddiau ac i nodi’r rhai sydd angen help.  Mae partneriaid ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ wedi darparu gwybodaeth i siopau ac amwynderau lleol i'w helpu i gefnogi'r heriau y gallai pobl eu hwynebu wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau.

Bydd yr adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ yn cael eu rhannu â chymunedau ledled Cymru er mwyn iddynt gydlynu eu prosiectau eu hunain.  Ymhlith yr adnoddau mae canllawiau ar sut i baratoi, ymarfer sgiliau a theimlo’n hyderus i adael y tŷ, a’r hyn y dylid ei ddisgwyl o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed mewn siopau a chyfleusterau lleol yn ystod y pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am ‘fannau diogel’ a chiwio â blaenoriaeth. 

Gallwch weld a rhannu'r deunyddiau yma ImprovementCymru.net/BywydCymunedol

Dywedodd Rebecca Hanmer, Uwch Reolwr Gwella yn Gwelliant Cymru, “Mae’r fenter ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ wedi cael ei chreu mewn partneriaeth â phobl, gwasanaethau a sefydliadau lleol.  Mae’n adeiladu ar ymateb cymunedol i gefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi.   Dyma enghraifft gyfannol o sut y gall y gymuned ddod at ei gilydd i ddarparu dull integredig o gefnogi a galluogi pobl i fynd yn ôl i fywyd cymunedol.”

Dywedodd Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapiau a Gwyddor Iechyd:  “Rwy'n falch iawn o weld bod gwahanol sefydliadau'n cydweithredu i fynd i'r afael â'r anawsterau real iawn sy'n wynebu rhai o'n pobl sy’n fwy agored i niwed yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Rhaid i ni gofio nad y rhai sydd wedi cael COVID-19 yn unig sydd wedi’i chael hi’n anodd. Bydd teuluoedd ag anwylyd sydd â dementia yn gwybod pa mor anodd fu'r flwyddyn ddiwethaf. Datblygwyd yr adnodd hwn gan gymunedau yn dod at ei gilydd ac rydym yn falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o hyn. Gyda'n gilydd, byddwn yn gryfach ac yn fwy gwydn.”

Mae ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ yn cefnogi Agendâu Adfer a Gofal Integredig COVID-19.