Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn Partneriaeth i Wella Gofal Iechyd i Bobl ag Anabledd Dysgu, gyda Phroffil Iechyd newydd Unwaith i Gymru

Stori newyddion hawdd ei darllen - Proffil iechyd newydd Cymru

I ddathlu’r Wythnos Anableddau Dysgu genedlaethol, yn gynt heddiw, cynhaliodd tîm ein rhaglen Anabledd Dysgu Cymru gyfarfod ar-lein o bartneriaid allweddol i gwblhau manylion lansio adnodd newydd y Proffil Iechyd, er mwyn cynorthwyo pobl ag anabledd dysgu i gael gofal iechyd cyson, diogel ac amserol yng Nghymru.

Bydd yr adnodd newydd yn rhoi dogfen bersonol i bobl ag anabledd dysgu, yn amlinellu’u proffil iechyd unigol, er mwyn iddynt fynd â’r ddogfen i apwyntiadau. Yna, gallai darparwyr gofal iechyd ddefnyddio’r wybodaeth allweddol hon i ddarparu gofal iechyd diogel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yn bresennol yn y cyfarfod ar-lein roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru. Rhannwyd fideo gan yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru, a rhoddwyd cyflwyniadau gan yr Athro Ruth Northway, Athro Nyrsio Anableddau Dysgu, Prifysgol De Cymru, a Sharon Williams a Paula Phillips o dîm rhaglen Anabledd Dysgu Cymru yn Gwelliant Cymru.

Cafodd Gwelliant Cymru ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith hwn, a hynny’n rhan o ffrwd waith gwella iechyd corfforol pobl ag anabledd dysgu yn Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau. Ymrwymiad yw hwn gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau plant ac oedolion sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Meddai’r Athro Jean White: “Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth gofal iechyd yn wynebu heriau sylweddol yn ystod pandemig Covid-19, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal cyson a theg. Hoffwn ddiolch i Gwelliant Cymru, Prifysgol De Cymru a’r holl bartneriaid sy’n gysylltiedig am ddod ynghyd i ddatblygu adnodd mor bwysig, i’n galluogi ni i wella ansawdd y gofal iechyd gaiff pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae tegwch mor bwysig yn ein system a hoffwn ganmol sut rydych chi wedi cydweithio er mwyn cyrraedd y pwynt hwn, i gynnal lansiad meddal ar gyfer yr adnodd newydd heddiw.”

Meddai’r Athro Ruth Northway, a ddatblygodd yr adnodd mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru: “Mae pobl ag anableddau dysgu yn parhau i farw cyn pryd a chael problemau iechyd y gellid eu hosgoi, oherwydd amrywiaeth o rwystrau sy’n cyfyngu ar eu mynediad i ofal iechyd. Mae cyfathrebu yn rhwystr allweddol; pan fydd pobl ag anableddau dysgu yn ymweld ag ysbyty neu leoliad meddygol, gallant gael trafferth mynegi’u hunain a chael y gofal y mae arnynt ei angen. Nod y Proffil Iechyd yw helpu mynd i’r afael â hyn trwy ddarparu gwybodaeth allweddol i staff gofal iechyd. Nod cael un adnodd a ddefnyddir ledled Cymru yw sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn adnabod yr adnodd yn glir. Datblygwyd arweiniad i gyd-fynd â hwn i bobl ag anabledd dysgu, eu teulu a’u gofalwyr, ac i weithiwr proffesiynol iechyd i’w cynorthwyo i gwblhau’r adnodd a deall sut y dylai gael ei ddefnyddio.”

Meddai Sharon Williams, Rheolwr y Rhaglen Gwella Gwasanaethau yn Gwelliant Cymru: “Rwyf mor falch bod yr holl waith caled a wnaed ar yr adnodd hwn bellach yn dwyn ffrwyth. Mae fy nhîm a’r partneriaid wedi gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i gydgynllunio’r adnodd, i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y claf. Mae adnoddau eraill wedi cael eu datblygu i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i gael at ofal iechyd ac i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd i gyflwyno gofal iechyd o ansawdd da i bobl ag anabledd dysgu. Byddant yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r Proffil Iechyd ar wefan Gwelliant Cymru fis nesaf.” 

Bydd y Proffil Iechyd a’r canllawiau’n cael eu lansio a’u rhannu fis nesaf gyda phobl ag anabledd dysgu, eu teulu a’u gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd.