Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu fel Gwelliant Cymru – ailfeddwl sut rydym ni'n gwella

Heddiw, rydym ni’n ail-lansio’n swyddogol fel Gwelliant Cymru, gwasanaeth gwelliant Cymru gyfan GIG Cymru, sy’n datblygu, mewnosod a chyflwyno gwelliannau ar draws y system ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Dros yr 11 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi cefnogi’r GIG i wella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru, ac rydym ni bellach yn dechrau ar daith i ailfeddwl am sut rydym ni’n gwella, er mwyn creu Cymru iachach – gyda’n gilydd.

Mae gwelliant yn feddylfryd. Mae’n golygu dweud: “Nid wy’n hapus i fynd â’r llif, a gwneud pethau fel yr wyf i bob amser wedi gwneud.” Mae’n golygu ymdrechu er gwell: gwell i chi, eich cydweithwyr a’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt. Mae gwelliant yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi: eich bod chi’n gallu eistedd ar y soffa ar ddiwedd diwrnod prysur gan wybod eich bod chi wedi gwella rhywbeth er gwell trwy ddarparu gofal gwych.

Mae’r gynhadledd yn dathlu popeth rydym ni wedi’i gyflawni ac yn nodi cyfnod newydd ar gyfer gwelliant yng Nghymru. Rydym ni’n gyffrous yn cael rhannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a fydd yn cynnwys;

  • arwain gwelliant, gan ddefnyddio fframwaith Gwelliant Cymru a Q Lab Cymru*, rydym ni’n cyflwyno cyfres o raglenni Cymru gyfan Gwelliant Cymru.
  • mewnosod sgiliau gwelliant trwy ein Hacademi Gwelliant Cymru. Yng ngham nesaf y daith gwelliant, mae ein Hacademi yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, offer, hyfforddwyr a chynghorwyr.
  • hyrwyddo gwelliant - bod yn llais dros welliant yng Nghymru, darparu llwyfan i rannu dysgu a straeon gwelliant, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a chymorth.

*mewn partneriaeth â Q yn y Sefydliad Iechyd


Dyma ddechrau ar y daith ac un rydym ni eisiau mynd arni gyda’n gilydd. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.