Neidio i'r prif gynnwy

Byw gyda HIV

Cwrs Peilot Newydd
Rydym yn lansio cwrs peilot ar-lein, sef Byw gyda HIV. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer unigolion sy'n byw gyda diagnosis o HIV neu rai sy'n cefnogi rhywun â HIV. Bydd y cwrs chwe wythnos o hyd yn dechrau ar 6 Ionawr 2025, gyda’r cyfranogwyr yn cyfarfod yn wythnosol ar ddydd Llun rhwng 10:00 a 12:30.

Nod y rhaglen yw grymuso cyfranogwyr drwy roi’r sgiliau hunanreoli iddynt i’w helpu i fyw bywydau egnïol a boddhaus.

Mae Pynciau'r Cwrs yn cynnwys:

  • Ffyrdd o ddelio ag ansicrwydd, heriau newydd a sut i drefnu eich diwrnod
  • Y meddwl a’r corff - ymarfer corff ar gyfer aros yn iach, yn hyblyg ac yn gryf
  • Gwneud penderfyniadau ar ymarferoldeb bywyd
  • Rhyw, agosrwydd, a datgelu
  • Gwerthuso symptomau
  • Bwyta’n iach
  • Cyfathrebu'n effeithiol gyda theulu, ffrindiau a'ch tîm gofal iechyd

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, yn bodloni'r meini prawf, ac yn gallu ymrwymo i'r dyddiadau, llenwch y ffurflen isod. Bydd eich cyfranogiad yn helpu i ddatblygu’r cwrs i gefnogi eraill sy'n wynebu heriau tebyg yn well.

Llenwch y ffurflen i gadw eich lle ar y cwrs peilot