Rydym i gyd yn ymwybodol o sut y gwnaeth y pandemig brofi ein system ofal a thynnu sylw at yr angen i ail-edrych ar ddiogelwch a lleihau niwed. Dyma ein ffocws yn Gwelliant Cymru, sef cefnogi sefydliadau i reoli ansawdd a diogelwch ar draws gofal yng Nghymru a gwreiddio Deddf Ansawdd Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi adolygu ein dull gweithredu ac wedi datblygu strategaeth newydd a thair blaenoriaeth strategol:
Mae ein Strategaeth Gwelliant Cymru 2021–2026 newydd – Cefnogi Gwella Ansawdd a Diogelwch, yn amlinellu ein ffocws newydd ac yn disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn gyda chi.