Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhwydwaith, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n dod â phartneriaid ledled GIG Cymru, awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac eraill ynghyd.
Rydym yn rhoi cyllid i GIG Cymru i gefnogi ei waith datblygu ac ymchwil er budd cleifion a’r cyhoedd. Rydym hefyd yn darparu cymuned a ariennir i gefnogi a chynyddu capasiti’r ymchwil a datblygiad, ac rydym yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau ariannu ymatebol.
Rydym yn cydweithio i hyrwyddo ymchwil mewn clefydau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau sy’n arwain at ddarganfyddiadau ac arloesedd sy’n gwella ac yn achub bywydau.
Gwefan: www.ymchwiliechydagofalcymru.org / www.healthandcareresearchwales.org
Cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol