Mae'r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi gwneud gwelliannau i sicrhau bod cleifion yn ganolog i benderfyniadau, gwasanaethau a'u gofal eu hunain. Mae’n bosibl bod prosiectau yn y categori hwn wedi mynd i’r afael ag anghenion amrywiol, a allai gynnwys sicrhau bod y Gymraeg mor weladwy â’r Saesneg ac nad oes rhaid i bobl sydd angen gwasanaeth Cymraeg ofyn amdano. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis o restr fer y beirniaid a bydd cymheiriaid yn GIG Cymru yn pleidleisio drosto. |