Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae'n wir bod cathetrau wrinol yn cynyddu'r risg dyddiol o haint i’r llwybr wrinol (UTI) tua 3-7% - po hiraf y bydd y cathetr yn ei le, po fwyaf yw'r risg o UTI sy'n gysylltiedig â chathetr (CAUTI). Defnyddir cathetrau wrinol yn eang yn ysbytai Cymru - mae gan dros 1000 o gleifion yn ysbytai Cymru gathetr wrinol yn ei le bob dydd, tra bod gan hanner yr holl gleifion ag UTI sy’n gysylltiedig â gofal iechyd gathetr wrinol yn ei le o fewn saith diwrnod cyn i'r symptomau ddechrau.
Sefydlodd cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan brosiect peilot mewn dwy Ward Ysbyty Cymunedol gyda’r nod o leihau’r defnydd o gathetrau wrinol 25% mewn chwe mis. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy sicrhau bod yr holl gleifion â chathetrau wrinol yn cael eu hadolygu’n ddyddiol i bennu a ddylid tynnu’r cathetr wrinol ai peidio yn unol â’r meini prawf HOUDINI y cytunwyd arnynt. Mae meini prawf HOUDINI ar gyfer arwain adolygiad dyddiol mewn perthynas â’r cathetr wrinol - gan hwyluso tynnu'r cathetr wrinol yn amserol, unwaith nad oes ei angen mwyach, yn seiliedig ar yr acronym Saesneg canlynol: H - Haematuria, O - Rhwystr (Obstruction), U - Llawdriniaeth Wrolegol (Urological) / Pelfig Mawr / Hir, D - Wlser Decubitus, I - Mewnbwn (Input) / Allbwn, N - Nyrsio (diwedd oes), I - Ansymudedd (Immobilisation) / Pledren Niwrogenaidd.
Gostyngodd y ddwy ward beilot eu defnydd o gathetrau (diwrnodau cathetr yr wythnos) 12% a 32%, o gymharu nifer y diwrnodau cathetr yr wythnos cyn ac ar ôl yr ymyrraeth addysg. Arweiniodd y cynllun peilot llwyddiannus at fentrau i dyfu ac ehangu'r prosiect i wardiau eraill. Yn ôl y data o ddwy o'r wardiau dilynol yn dilyn y cynllun peilot, roedd gostyngiadau o 9% a 30% yn nifer y 'diwrnodau cathetr yr wythnos'.
Mae canlyniadau cychwynnol yn dangos y gall gweithredu'r prosiect gyflawni gostyngiadau yn y defnydd o gathetrau a lleihau nifer yr heintiau i'r llwybr wrinol sy'n gysylltiedig â chathetr (CAUTIs) – 'dim cathetr na CAUTI!' Mae cynlluniau ar waith i barhau i hyrwyddo a chefnogi'r gwaith o gyflwyno'r prosiect, ac i gynnal rhagor o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu i wella'r broses o gasglu data.