Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro
Mae'r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl yn gyffredinol. Yn benodol, y rhai o gefndiroedd difreintiedig sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Ym mis Hydref 2020, cynhaliodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro Ymgynghoriad Digidol pythefnos o hyd ar y gofod awyr agored yn Ysbyty Prifysgol Llandochau. Holodd randdeiliaid beth oedd ei angen arnynt a beth yr hoffent i’r safle saith erw gael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Roedd yr adborth a dderbyniwyd yn cynnwys: lle ar gyfer adsefydlu, cymryd egwyl, hamdden, gweithgareddau, therapi, tyfu a theithiau cerdded natur.
Mewn partneriaeth â Down to Earth, menter gymdeithasol arobryn sy’n cefnogi pobl i sicrhau newid cadarnhaol yn eu bywydau trwy weithgarwch awyr agored ystyrlon, cynhaliwyd y prosiect ‘Addas at y Dyfodol’ rhwng Hydref 2020 a Mehefin 2023, a’r canlyniad oedd sefydlu ‘Dôl Iechyd’. Cysylltwyd â staff y GIG, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes therapi galwedigaethol, ym maes ffisiotherapi, yn yr uned anafiadau i’r ymennydd ac yn yr uned strôc, i ddangos ffyrdd gwahanol o gynnig gwasanaeth adsefydlu drwy ddull awyr agored.
Yn dilyn ymateb da gan staff oedd â diddordeb mewn profi’r dull newydd hwn o adsefydlu, daethpwyd â chleifion o’r wardiau i’r ‘Ddôl Iechyd’ i gymryd rhan yn y prosiect. Roedd ail-ddysgu sgiliau echddygol manwl ar ôl strôc neu feithrin cryfder yn eu dwylo trwy gymryd rhan mewn gwaith adeiladu neu blannu wrth fod yn yr awyr agored ym myd natur yn helpu gydag iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Yn aml, roedd pob lle yn llawn yn rhaglenni’r Ddôl Iechyd a daeth nifer helaeth o geisiadau i law’r tîm yn gofyn bod cleifion, grwpiau cymunedol, cwmnïau corfforaethol ac ysgolion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau presgripsiynu cymdeithasol hyn i wella iechyd a llesiant.
Fe wnaeth y prosiect hwn bara dwy flynedd, a dros y cyfnod hwn, ymgysylltwyd â 1003 o randdeiliaid a 1591 o gyfranogwyr, a chynhaliwyd 507 o ddiwrnodau/sesiynau hyfforddi. Mae cynlluniau bellach ar waith i adeiladu canolfan lesiant â tho gwyrdd o’r enw “Yr Hafan Natur” ar dir y Ddôl Iechyd.