Mae’r cwrs byr ar-lein hwn yn orfodol i holl staff GIG Cymru, beth bynnag fo’u rôl. Gallwch gael mynediad iddo drwy Gofnod Staff Electronig y GIG (ESR). Y nod yw gwneud Gwella Ansawdd (QI) yn rhan naturiol o'ch gwaith. Hyd yn oed os nad ydych yn gyflogai i GIG Cymru, gallwch barhau i ddilyn y cwrs hwn os ydych yn gweithio mewn lleoliad iechyd a gofal lle mae egwyddorion Gwella Ansawdd yn berthnasol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr sydd eisiau dysgu am welliant a'i bwysigrwydd ym maes gofal iechyd. Byddwch yn dysgu egwyddorion sylfaenol gwelliant a sut i'w cymhwyso yn eich gwaith. Gallwch ddod o hyd i'r cwrs ar eich platfform e-ddysgu ESR. Os oes angen mwy o gymorth arnoch, gallwch gysylltu â tîm yr Academi.
Ymwybyddiaeth o welliant
Dysgu byr ar-lein
E-dystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall y canlynol yn well:
Egwyddorion gwelliant
Eich rôl o fewn gwelliant
Os oes gennych gwestiwn am y cwrs hwn neu os hoffech unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â tîm yr Academi.
Mae’r cwrs undydd hwn a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn adeiladu ar egwyddorion gwelliant yn y cwrs rhagarweiniol Sylfeini mewn Gwelliant, gyda ffocws ar offer diagnostig i hwyluso dealltwriaeth o systemau, a phwysigrwydd defnyddio data dros gyfnod fel mesur rhannol ar gyfer gwelliant a rôl gwelliant parhaus.
Mae’r cwrs hwn yn helpu i bontio’r bwlch rhwng Sylfeini mewn Gwelliant ac ymgymryd â phrosiect fel rhan o Gwelliant ar Waith.
Mae’n ceisio eich galluogi i gwblhau prosiectau gwella, o osod nodau, defnyddio mesuriadau ar gyfer gwelliant a chwblhau profion newid.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 4 modiwl o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at weithredu prosiect gwella lleol.
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau hyfforddi ar gyfer gwelliant a chefnogi eraill i gyflawni eu nodau gwella.
Os ydych chi eisiau helpu eraill i arwain prosiectau gwella llwyddiannus, mae'r cwrs Anogwr Gwella ar eich cyfer chi. Dylai fod gennych ddealltwriaeth gadarn o gysyniadau, dulliau ac offer gwella. Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i hyfforddi ar gyfer gwella gydag arweiniad a chefnogaeth ein tîm dros dri mis. Byddwch yn datblygu eich sgiliau a'ch hyder i helpu eraill i ddiffinio problem ac arwain prosiect gwella â ffocws.
Nodweddion y cwrs:
Cwrs tridiau dros dri mis
Dysgu hunangyfeiriedig a dysgu yn yr ystafell ddosbarth
Ymarferol
Cydweithredol
E-dystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs
Hyfforddiant gan arbenigwr gwella
Bydd y cwrs hwn yn:
Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi gefnogi timau gwella ar bob lefel o'r system
Gwella eich hyder wrth gefnogi eraill i ddefnyddio offer diagnostig gwella allweddol
Os oes gennych gwestiwn am y cwrs hwn neu os hoffech unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â tîm yr Academi.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr gwella sydd am arwain newid mewn lleoliadau iechyd a gofal, neu ar gyfer rhai sy'n ceisio arbenigedd ychwanegol mewn gwella ansawdd.
Bydd y cwrs Cynghorydd Gwella - Scottish Improvement Leader (ScIL) yn eich helpu i ddylunio, datblygu ac arwain prosiectau gwella sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a rhaglenni cenedlaethol. Byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth gwella ansawdd flaenorol ac yn dysgu sut i ennyn cefnogaeth a darparu cyngor ar gyfer gwella. Mae'r cwrs yn rhaglen 12 mis sy'n cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein a dysgu hunangyfeiriedig. Byddwch hefyd yn rhoi’r theori ar waith trwy ymgymryd â'ch prosiect gwella eich hun trwy gydol y cwrs.
Bydd y cwrs hwn yn:
Dysgu cysyniadau craidd Gwyddor Gwelliant yn fanwl i chi
Datblygu eich syniadau a thechnegau Gwyddor Gwelliant ar gyfer eich prosiectau gwella eich hun.
Rhoi'r sgiliau i chi arwain a rheoli newid ar gyfer gwelliant yn effeithiol.
Eich helpu i hwyluso dysgu a hyfforddi eraill mewn Gwyddor Gwelliant.
I ddysgu mwy am y cwrs hwn, cysylltwch â tîm yr Academi.